Back
Dysgu i Weithio

 

Bydd y cyfnod cofrestru ar gyfer cyrsiau am ddim i helpu pobl gymwys gyda'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddychwelyd i'w gwaith, hyfforddiant neu addysg bellach yn dechrau'r penwythnos hwn.

 

Mae gwasanaeth Dysgu Oedolion a'r Gymuned y Cyngor yn cynnal cyrsiau am ddim, wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, mewn nifer o leoliadau ym mhob rhan o'r ddinas mewn awyrgylch cymdeithasol a hamddenol lle y gall dysgwyr wneud ffrindiau, dysgu sgiliau newydd a gweithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig.

 

Mae nifer o ddigwyddiadau cofrestru yn cael eu cynnal er mwyn i bobl ymgofrestru ar y cyrsiau hyn, sy'n cynnwys cyflwyniad i gwnsela, cyfrifiaduron i ddechreuwyr, gweithio gyda phlant, magu hyder a llawer mwy.

 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cwrs ddod i Hyb y Llyfrgell Ganolog ddydd Sadwrn 8 Medi (10am - 1pm) i ddysgu mwy am yr hyn sydd ar gynnig ac i gofrestru ar gyfer y tymor hwn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae ein cyrsiau Dysgu i Weithio gyda'r gwasanaeth Dysgu Oedolion a'r Gymuned yn helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf yn ôl i addysg a symud tuag at gyfleoedd dysgu pellach, hyfforddiant a chyflogaeth.

 

"Gall y cyrsiau roi'r hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl sydd wedi cael seibiant o'r gwaith am ba bynnag rheswm er mwyn eu helpu i wella eu cyfle i gael swydd trwy loywi eu gallu presennol a'u cynorthwyo i wella eu sgiliau.

 

 

Mae unigolion cymwys yn cynnwys y rhai hynny nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ac sy'n derbyn cymorth neu fudd-daliadau'r wladwriaeth (ac eithrio pensiwn ymddeol y wladwriaeth) a phobl dros 50 oed nad ydynt mewn cyflogaeth llawn amser ac sy'n ceisio gwaith.Gall y tîm helpu os nad oes gan ddysgwyr lawer o gymwysterau ffurfiol, neu ddim o gwbl.Croesawir atgyfeiriadau o sefydliadau ac elusennau'r Trydydd Sector sy'n cefnogi unigolion i fynd yn ôl i addysg hefyd.

 

Cynhelir sesiynau cofrestru fel a ganlyn:

Dydd Llun 10 Medi10am - 12pm yn Hyb Powerhouse, Llanedern

                                 1pm - 3pm yn Hyb Llaneirwg

Dydd Mawrth 11 Medi10am - 1pm yngNghanolfan Severn Road, Treganna

Dydd Mercher 12 Medi  10am - 12pm yn Hyb Grangetown

Dydd Iau 13 Medi     10am - 1pm yn Hyb Trelái a Chaerau

 

Gallwch gofrestru dros y ffôn hefyd o ddydd Gwener 14 Medi ar029 2087 2030 (yn anffodus ni fyddwn yn gallu cofrestru unrhyw un cyn y dyddiad hwn).