Back
Gyrwyr tacsi llogi preifat yn cael eu herlyn

Erlynwyd 16 o yrwyr tacsi llogi preifat ddydd Gwener diwethaf (17 Awst) am fasnachu'n anghyfreithlon yng Nghaerdydd a gyrru heb yswiriant.

Roedd 14 o'r gyrwyr hyn yn gyrru cerbydau llogi preifat trwyddedig Caerdydd, tra bod y ddau arall wedi'u trwyddedu y tu allan i Gaerdydd - un o Gasnewydd a'r llall o Rondda Cynon Taf.

Mae'r erlyniadau hyn o ganlyniad i ‘ymarfer siopa cudd' gan swyddogion y cyngor yn targedu cerbydau llogi preifat nad oes ganddynt yr hawl i gasglu cwsmeriaid o'r stryd heb eu bod wedi cael eu harchebu ymlaen llaw drwy weithredwr neu app.

Cafodd y rhan fwyaf o'r gyrwyr ddirwy o £300 ac wyth o bwyntiau ar eu trwydded, a'u gorchymyn i dalu £150 mewn costau a gordal dioddefwyr o £30.

Dyma atgoffa'r cyhoedd mai dim ond cerbydau hacni trwyddedig Caerdydd y gellir eu defnyddio o safle tacsis neu eu galw ar y stryd (heb archebu ymlaen llaw). Maen nhw'n ddu â boned gwyn neu'n gerbydau tebyg i dacsis Llundain - mae gan bob un arwydd ar y to sydd wedi'i oleuo pan fo ar gael i'w logi.

Mae pob cerbyd trwyddedig yn arddangos plât trwydded ar gefn y cerbyd ac mae cerdyn adnabod y gyrrwr trwyddedig wedi'i arddangos ar ochr chwith y ffenestr flaen ac yn cael ei wisgo gan y gyrrwr.

I wneud cwyn am yrrwr neu gerbyd trwyddedig yng Nghaerdydd, cysylltwch â'r adran drwyddedu ar 029 20871651 neutrwyddedu@caerdydd.gov.uk