Back
Cyngor Caerdydd ar frig cynghrair gwella

Mae dau adolygiad annibynnol wedi canfod bod Cyngor Caerdydd yn parhau i wneud gwelliannau mewn gwasanaethau allweddol a'i fod wedi gwella'n fwy nag unrhyw Gyngor arall yng Nghymru (ochr yn ochr ag un cyngor arall).

 

Pan gymharodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 22 awdurdod lleol Cymru wrth lunio'i Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus diweddaraf, daeth Cyngor Caerdydd ar y brig o ran ardaloedd lle mae perfformiad wedi gwella. Roedd gan y Cyngor hefyd y nifer leiaf o ddangosyddion lle roedd perfformiad wedi gwaethygu. Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn bodloni ei ofynion o ran gwelliant parhaus yn ôl adroddiad blynyddol gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio ac Ymgynghori: "Mae'n newyddion gwych taw ni, ochr yn ochr â Sir Gâr, yw'r Cyngor sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran gwella'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig. Dylid pwysleisio hefyd ein bod wedi sgorio'n uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer y rhan fwyaf o ddangosyddion. Mae hyn yn dyst i'r holl waith caled sy'ncael ei wneud i groesawu ffyrdd newydd o weithio a mireinio'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i sicrhau eu bod gystal â phosib, ochr yn ochr â gwneud rhai penderfyniadau ariannol anodd."   

 

Fel rhan o'r Adroddiad Gwella Blynyddol, daeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r casgliad ei fod yn fodlon bod gan Gyngor Caerdydd "drefniadau priodol ar waith i sicrhau defnydd economaidd, effeithlon ac effeithiol o adnoddau."