Back
Ymgynghoriad drafft ar strategaeth wastraff Caerdydd yn dechrau ar 30 Gorffennaf


Bydd ymgynghoriad drafft ar strategaeth wastraff Caerdydd yn dechrau ar 30 Gorffennaf.

Caerdydd sydd â'r gyfradd ailgylchu uchaf o blith holl Ddinasoedd Craidd y DU, ond oherwydd targedau ailgylchu heriol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i'r gyfradd ailgylchu gynyddu o 58% i 64% erbyn Ebrill 2020 ac yna i 70% erbyn 2025.

Bydd methu â chyrraedd y targedau a osodwyd yn arwain at ddirwy o £200 am bob tunnell sy'n fyr o'r targed.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn edrych ar nifer o themâu i gynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas sydd yn cynnwys:

Y modd y mae preswylwyr yn ailgylchu ar hyn o bryd

Yr hyn y gellir ei wneud i gynyddu ailgylchu ymhellach

Cynyddu cyfraddau ailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC)

Casgliadau gwastraff gwyrdd yn ystod misoedd y gaeaf

Adolygu effeithiolrwydd  casgliadau gwastraff y dyfodol

 

Mae'r arolwg ar-lein yn un hawdd a chyflym i'w lenwi ac ar gael drwy'r ddolen ganlynol https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=153294349327

Bydd copïau papur hefyd yn cael eu gyrru ar hap i aelwydydd ar draws y ddinas.Bydd trigolion Caerdydd sy'n cwblhau'r arolwg yn cael cyfle i ennill dau docyn ar gyfer Florence and the Machine yn Motorpoint Arena ar 26 Tachwedd,  diolch i’n ffrindiau yn Motorpoint.

Dywedodd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn i'r cyhoedd am eu barn ar ystod o faterion, fel y gallwn barhau i wella a chynyddu cyfraddau ailgylchu'r ddinas ymhellach. Mae cost cael hyn yn anghywir yn sylweddol, felly dyma pam ei bod hi mor bwysig i breswylwyr ymgysylltu â'r broses.

"Caerdydd yw'r brifddinas, felly rydym yn wynebu heriau gwahanol o'u cymharu â rhannau eraill o Gymru. Wrth gymharu â dinasoedd eraill yn y DU, mae ein perfformiad ailgylchu yn dda iawn ond mae'n rhaid i ni wneud mwy ac ni allwn wneud hynny heb gymorth gan breswylwyr.

"Yn ogystal â'r ymgynghoriad ledled y ddinas, byddwn hefyd yn cyflwyno cynllun treialu i 17,000 o eiddo i gasglu gwydr ar wahan i ddeunyddiau ailgylchu eraill. Os yn llwyddiannus, caiff hyn wedyn ei gyflwyno i bob cartref yn y ddinas.

"Yn ystod dechrau mis Medi, bydd cynghorwyr sydd yn cynrychioli'r ardaloedd lle bydd y cynllun treialu yn mynd rhagddo yn derbyn gwybodaeth am y cynllun. Bydd preswylwyr wedyn yn derbyn gwybodaeth drwy'r post i'w cartrefi ar Medi a bydd cymorth ar gael i sicrhau y bydd y cynllun treialu yn cael ei redeg yn gywir."

"Bydd y dull newydd o gasglu gwydr yn gwella ansawdd ailgylchu'r ddinas, lleihau difrod i'n peiriannau ailgylchu ac arbed arian y trethdalwyr."

Pan ddaw'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth wastraff ddrafft i ben ar 30 Medi, bydd y canfyddiadau yn cael eu casglu a'u cyflwyno i'r cabinet ar ddyddiad yn y dyfodol.