Back
CANFASIAD BLYNYDDOL 2018 Peidiwch a cholli'ch llais -

Annog preswylwyr Caerdydd i gadw golwg am eu manylion cofrestru etholwr yn y post.

Mae trigolion lleol yn cael eu rhybuddio i beidio â cholli eu llais at faterion sydd yn effeithio arnyn nhw drwy gwblhau a dychwelyd eu canfasiad blynyddol gan eu hawdurdod lleol cyn gynted ag y bo modd.

Mae'r ffurflen yn golygu bod Cyngor Caerdydd yn gallu sicrhau fod y gofrestr etholiadol yn gyfredol a nodi unrhyw drigolion nad ydynt wedi eu cofrestru fel y gellir eu hannog i wneud hynny.

Er mwyn gwneud y broses yn gyflym a syml gall preswylwyr gwblhau'r wybodaeth angenrheidiol ar-lein, dros y ffôn neu drwy neges destun.

 Dywedodd Christine Salter, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghyngor Caerdydd:

"Mae'n bwysig fod preswylwyr yn ymateb cyn gynted ag y bo modd, fel y gallwn sicrhau fod y manylion cywir gennym ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yng Nghaerdydd.Er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych lais adeg etholiadau, cadarnhewch y manylion ar y ffurflen pan ddaw ac ymateb iddi cyn gynted ag y bo modd.

"Os nad ydych wedi eich cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y ffurflen.Os ydych yn dymuno cofrestru, y dull hawsaf o wneud hynny yw ar-lein ynwww.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio, neu gallwn yrru gwybodaeth atoch yn y post yn egluro sut mae gwneud hyn.Ond y naill ffordd neu'r llall bydd rhaid i chi gwblhau'r ffurflen a'i dychwelyd atom ni."

Caiff y bobl hynny sydd wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar eu hannog yn arbennig i gadw golwg am y ffurflen ac i gadarnhau'r manylion.Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol annibynnol yn dangos fod pobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi eu cofrestru na'r rheiny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am amser hir.Ar draws Gwledydd Prydain, bydd 94% o bobl sydd wedi bod yn eu heiddo am fwy nag un mlynedd ar bymtheg wedi eu cofrestru, o'i gymharu â 40% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na blwyddyn.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:
"Mae'n wirioneddol bwysig fod pawb sydd â hawl i bleidleisio yn gallu gwneud hynny; cadarnhau'r manylion ar y ffurflen a fydd yn cyrraedd drwy'r post yw un o'r dulliau hawsaf i ganfod os ydych eisoes wedi'ch cofrestru.Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chofrestru i bleidleisio ar ein gwefan www.yourvotematters.co.uk."

Gall unrhyw breswylydd sydd ag unrhyw gwestiwn gysylltu â'u tîm cofrestru lleol drwy e-bost:gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.ukneu Ffôn:029 2087 2087.