Back
Cadw Caerdydd yn Symud

 

Caiff tri chamera newydd eu gosod i helpu llif y traffig mewn tri lleoliad yn y ddinas.

Caiff cyffordd sgwâr melyn ei gorfodi'r tu allan i Garchar Caerdydd, y drws nesaf i Lys yr Ynadon Caerdydd, ar y gyffordd â Moira Terrace; Windsor Road; Adam Street a Fitzalan Place. Mae hon yn brif gyffordd yng nghanol y ddinas, lle ceir tagfeydd yn aml oherwydd bod gyrwyr yn aros yn anghyfreithlon yn y gyffordd sgwâr melyn.

Bydd yr ail gamera wrth le na chaniateir troi i'r dde ar Ffordd Caerdydd trwy Landaf, troi i'r dde wrth dafarn y Molesters.Mae'r gwaharddiad hwn wedi bod yno ers tro, ond mae tagfeydd trwy Landaf oherwydd nad yw gyrwyr yn ufuddhau'r gwaharddiad.

Bydd y camera newydd olaf yn gorfodi’r safle bws ym Mae Caerdydd wrth Gei’r Fôr-forwyn ar New George Street.  Mae stopio neu barcio mewn safleoedd bysus yn anghyfreithlon, gan ei fod yn achosi problem iechyd a diogelwch i’r rheisny sy’n aros neu’n dod oddi ar fws.  Mae gyrwyr Cerbydau Hacni yn gallu casglu neu ollwng mewn safle bws ond nid ydynt yn cael aros.  

Mae'r camerâu wedi eu gosod a chyflwynir hysbysiadau rhybudd tan ddechrau'r gorfodi ar 30 Gorffennaf 2018.

ae hyn nawr yn dod â nifer y camerâu Troseddau Traffig sy'n Symud i 46; mae 20 yn gorfodi lonydd bysus, 8 yn gorfodi cyffyrdd sgwâr melyn, 13 yn gorfodi troadau a waherddir, 4 yn gorfodi dim mynediad i strydoedd penodol ac 1 yn gorfodi safle bws.

Yn ogystal â'r camerâu newydd uchod, mae camerâu yn y lleoliadau canlynol, sy'n cael eu gorfodi ar hyn o bryd:

Lonydd Bysus

  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â Colchester Avenue
  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â Rover Way
  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â Beresford Road
  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â Rhodfa'r Orsaf
  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â West Grove
  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â Fitzalan Place
  • Heol y Tollty i'r Dwyrain
  • Heol y Tollty i'r Gorllewin
  • Heol y Dug
  • Ffordd y Brenin i'r De-orllewin
  • Heol y Gogledd wedi Boulevard de Nantes
  • Heol Caerffili wedi'r gyffordd â Phoenix Road
  • Heol Caerffili cyn y gyffordd â Heol Pum Erw
  • Heol Caerffili cyn y gyffordd â Heol Tair Erw
  • Crwys Road
  • Plas-y-Parc
  • Heol Llantrisant
  • Southern Way
  • Ffordd Churchill i gefn y Motorpoint Arena
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen

Cyffyrdd Sgwâr Melyn

  • Plas Dumfries / Rhodfa'r Orsaf / Heol Casnewydd
  • Heol Lecwydd / Brian Way / Stadiwm Athletau
  • Stryd Bute / Rhodfa Bute / Heol Pont-yr-Aes / Heol y Tollty
  • Stryd Adam / Ffordd Gyswllt Ganolog
  • A4232 Ffordd Gylchol Gyswllt Ddwyreiniol y Bae
  • Cyffordd Gylchol Lecwydd ar ffordd ymuno â'r A4323 o Hadfield Road
  • Cyffordd Gylchol Lecwydd ar ffordd ymadael â'r A4323 i Leckwith Road

Troadau Gwaharddedig

  • Dim Troi i'r Chwith - Heol Pont-yr-Aes i Faes Parcio John Lewis
  • Dim Troi i'r Chwith - Heol Birchgrove i Manor Way
  • Dim Troi i'r Chwith - Amroth Road i Heol Orllewinol y Bont-faen
  • Dim Troi i'r Chwith (ac Eithrio Bysus a Thacsis ) - Heol Eglwys Fair i Lôn y Felin
  • Dim Troi i'r Chwith (ac Eithrio Bysus a Thacsis) - Heol y Porth i Stryd Wood
  • Dim Troi i'r Dde (ac Eithrio Bysus) - Heol Casnewydd i New Road
  • Dim Troi i'r Dde - Heol y Gogledd i Heol y Coleg
  • Dim Troi i'r Dde - Colum Road i Heol Corbett
  • Dim Troi i'r Dde - Crystal Glen i Heathwood Road
  • Dim Troi i'r Dde - Piercefield Place i Heol Casnewydd
  • Dim troi i'r Dde - Ffordd Churchill i Stryd Ogleddol Edward
  • Dim Tro Pedol - Heol Casnewydd ar y gyffordd â Wordsworth Avenue

Dim Mynediad

  • Paget Street
  • Malvern Drive i'r dwyrain
  • Malvern Drive i'r gorllewin
  • Linden Grove