Mae parciau a mannau gwyrddion trawiadol Caerdydd unwaith eto wedi ennill Gwobr y Faner Werdd fawr ei bri.
Mae deuddeg o barciau a mannau gwyrddion yn y ddinas a gynhelir gan Gyngor Caerdydd wedi ennill nod ansawdd rhyngwladol Cadwch Cymru'n Daclus, gan gynnwys Parc y Mynydd Bychan sy'n cael ei gydnabod am y tro cyntaf un.
Mae Parc Bute, Morglawdd Bae Caerdydd, Gwlyptiroedd Bae Caerdydd, Mynwent Cathays, Ynys Echni, Gerddi'r Faenor, Parc Cefn Onn, Parc y Rhath, Gerddi Bryn Rhymni, Mynwent Draenen Pen-y-graig a Pharc Fictoria unwaith eto wedi bodloni'r safonau uchel sydd eu hangen i sicrhau'r Faner Werdd.
Unwaith yn rhan o Waun Fawr Caerdydd, mae Parc y Mynydd Bychan nawr yn fan gwyrdd pwysig i faestrefi gogleddol Caerdydd.Mae'r parc 37 hectar yn cynnig cyfleusterau chwaraeon a chwarae ar gyfer pob oedran, ond mae hefyd yn cynnwys coetiroedd, pyllau a gwlyptiroedd sy'n gynefin ar gyfer amrywiaeth eang o blanhigion a bywyd gwyllt.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cyng. Peter Bradbury:"Mae ennill deuddeg Baner Werdd yn dangos bod Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod parciau a mannau gwyrddion o safon ardderchog ar gael i'n trigolion ac ymwelwyr â'r ddinas.
"Mae ychwanegu at nifer y baneri y dyfarnwyd i ni eleni gyda Pharc y Mynydd Bychan yn cael ei gydnabod am y tro cyntaf yn wych ac rydw i wrth fy modd bod y ddinas yn parhau i sicrhau mwy o Faneri Gwyrdd nag unrhyw le arall yng Nghymru.
"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos y partneriaethau effeithiol sydd gan y Cyngor a'r cyfraniad a wneir gan Grwpiau Cyfeillion a gwirfoddolwyr unigol.Llongyfarchiadau i'r holl staff a fu'n rhan o'r cyflawniad hwn.Dylen nhw fod yn falch dros ben o'n parciau a mannau gwyrddion.Rwy'n annog pobl Caerdydd i fynd allan a'u mwynhau yr haf hwn."
Daw'r cyhoeddiad yn ystod y 12fed Wythnos Caru Parciau (13 - 22 Gorffennaf) a drefnir gan Keep Britain Tidy, pan fo pobl ledled y wlad yn dod ynghyd i ddathlu parciau a dangos i'r byd bod parciau yn bwysig iddyn nhw.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd yn Cadwch Gymru'n Daclus:"Rydym wrth ein bodd o fod yn dathlu blwyddyn ragorol arall ar gyfer Gwobrau'r Faner Werdd yng Nghymru.Mae'r 201 O faneri sy'n hedfan yn dangos ymroddiad a brwdfrydedd y staff a gwirfoddolwyr ledled y wlad sy'n gweithio'n ddiflino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd.
"Hoffwn annog pawb i fynd allan i'r awyr agored yr haf hwn a mwynhau'r parciau a mannau gwyrddion anhygoel sydd gennym ar garreg ein drws".
Mae 201 o barciau a mannau gwyrddion, gan gynnwys prifysgolion, mynwentydd, coetiroedd a rhandiroedd ledled Cymru wedi bodloni'r safonau uchel yr oedd eu hangen i ennill Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.
Caiff y wobr ei beirniadu gan arbenigwyr mewn mannau gwyrddion sy'n gwirfoddoli eu hamser i ymweld â'r safleoedd sy'n ymgeisio a'u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys safonau garddwriaethol, glanweithdra, gwaith rheoli amgylcheddol a chynnwys y gymuned.Cyflawnir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
Dyma restr lawn o'r holl enillwyr:Keep Wales Tidy website.#BanerWerddCymru