Back
Llyfrgelloedd Caerdydd yn dda i’ch iechyd!


Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Ddydd Y Tyllgoed heddiw i groesawu cynllun newydd sydd ar gael yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd i helpu iechyd a llesiant pobl.

 

Yn dilyn lansio'r cynllun ‘Reading Well for Dementia' yn gynharach yr wythnos hon, i godi ymwybyddiaeth o'r fenter newydd, cynhaliodd gwasanaeth llyfrgelloedd Caerdydd de parti arbennig i rai o'r bobl sy'n ymweld â'r ganolfan ddydd yn rheolaidd. Ariennir y fenter newydd gan Lywodraeth Cymru ac fe'i darperir gan The Reading Agency mewn partneriaeth â Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru.

 

Mae Reading Well yn adeiladu ar y model 'Books on Prescription' a ddatblygwyd yn wreiddiol yng Nghymru gan yr Athro Neil Frude ac sydd wedi'i ddatblygu i gefnogi pobl gyda demensia a'u gofalwyr yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o achosion a symptomau'r cyflwr.

 

Lansiwyd y cynllun yng nghynhadledd Cymdeithas Ewrop ar gyfer Gwybodaeth Iechyd a Llyfrgelloedd yng Nghaerdydd ar 11 Gorffennaf a bydd ar gael mewn llyfrgelloedd a hybiau ar draws y ddinas a thrwy Gymru benbaladr o'r haf hwn ymlaen.

 

Mae rhestr lyfrau'r cynllun yn cynnwys gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n byw gyda demensia a'u gofalwyr yn ogystal â llyfrau ffuglen, cofiannau a ffotograffau a ddefnyddir ar gyfer therapi atgofion. 

 

Mae gwasanaeth llyfrgelloedd Caerdydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun newydd a llyfrgellydd arweiniol y ddinas, sef Nicola Pitman, yw dirprwy gadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, y sefydliad sy'n cymryd y rôl arweiniol yn y gwaith o ddatblygu llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru.

 

Roedd y parti heddiw yng Nghanolfan Ddydd y Tyllgoed yn gyfle i hyrwyddo'r cynllun newydd ac i arddangos sut y mae llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd eisoes yn blaenoriaethu iechyd a llesiant trigolion. Daeth y gwasanaeth â'i gaban atgoffa, neu ‘caban cofio', ar ffurf Ystafell Fyw o'r 1960au - set untro o oes a fu, yn cynnwys propiau a all helpu i ysgogi sgyrsiau a sbarduno atgofion ymysg pobl yn byw gyda demensia. Hefyd, cafodd defnyddwyr y ganolfan ddydd gyfle i edrych drwy'r llyfrau sydd yn rhan o'r cynllun Reading Well a mwynhau ambell gacen Reading Well!

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: "Rwy'n falch iawn o waith gwasanaeth llyfrgelloedd Caerdydd yn datblygu'r cynllun 'Reading Well for Dementia' a fydd yn darparu cyfle defnyddiol ac o ansawdd i ddarllen am ddemensia a heneiddio arferol, cefnogaeth yn dilyn diagnosis a chymorth ymarferol i ofalwyr.

 

"Mae gan lyfrgelloedd rôl bwysig i'w chwarae yn adeiladu cymunedau sy'n deall demensia ac mae ein gwasanaeth wedi bod yn rhan o'r cysyniad hwn ers y cychwyn cyntaf.  Yn ogystal â darparu llyfrau ar bresgripsiwn, mae ein llyfrgelloedd yn cynnig casgliadau hel atgofion, gwybodaeth am wasanaethau demensia lleol, trefnu gweithgareddau cymdeithasol megis grwpiau darllen ac wrth gwrs, ein Caffis Demensia rheolaidd yn Hyb y Llyfrgell Ganolog a Llyfrgell Treganna.

 

"Bellach bydd gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n cynnig gofal demensia yn gallu argymell llyfrau defnyddiol i'w darllen i bobl sy'n byw â demensia a'u gofalwyr, a bydd y llyfrau ar gael ar y silffoedd agored, gydag arwyddion clir, i unrhyw un eu benthyg o'n llyfrgelloedd a'n hybiau."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Bydd ‘Reading Well for Dementia', a gymeradwywyd gan y cyhoedd yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol fel gwasanaeth iechyd cymunedol, yn ffynhonnell werthfawr i roi cymorth a gwybodaeth i bobl sy'n byw â demensia, yn ogystal â'u perthnasau a'u gofalwyr.

 

"Rydym yn ymrwymedig i gefnogi dinasyddion a theuluoedd sy'n byw gyda demensia ac i sicrhau bod Caerdydd yn Ddinas sy'n Deall Demensia gydnabyddedig. Mae'r cynllun ‘Reading Well for Dementia' yn ategu ein nodau yn dda iawn wrth i ni geisio creu man lle y gall pobl yr effeithir arnynt gan ddemensia barhau i ffynnu a mwynhau bywyd, gan wybod yn iawn fod y gymuned ehangach yn deall ac yn cefnogi eu hanghenion."