Back
Ymgynghoriad ynghylch llefydd gwag yn ysgolion cynradd Llanrhymni

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried cynnig i ymgynghori ar ddewisiadau i fynd i'r afael â'r nifer uchel o lefydd gwag yn ysgolion cynradd ardal Llanrhymni, Caerdydd yn ei gyfarfod ddydd Iau 12 Gorffennaf. 

Ar hyn o bryd, mae 20 y cant o lefydd ysgolion cynradd yr ardal heb eu llenwi. O'r chwe ysgol gynradd yn Llanrhymni, Glan-yr-Afon sydd â'r nifer mwyaf o lefydd gweigion, gyda bron i hanner y 292 o lefydd yn wag ar hyn o bryd. Hyd yn oed wedi ystyried y twf disgwyliedig yn y boblogaeth a'r datblygiadau tai arfaethedig, mae rhagolygon yn dangos y bydd y llefydd gweigion eto fyth. 

Er mwyn gostwng nifer y llefydd gweigion yn yr ardal, mae adroddiad i'r Cabinet yn argymell ymgynghori ar gynnig cau ysgol gynradd Glan-yr-Afon, a llefydd ar gael mewn ysgolion lleol eraill. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n bwysig ein bod yn ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid er mwyn archwilio datrysiadau posibl, gan nad yw nifer presennol y llefydd gweigion yn gynaliadwy ac mae'n gosod straen anferth ar adnoddau pan ydym yn wynebu her gyllido na fu ei thebyg o ran ein hysgolion. 

"Mae llefydd gweigion yn effeithio'n sylweddol ar gyllidebau ysgolion, gan y pennir elfen o'r arian a geir yn ôl nifer y disgyblion. Mae dod o hyd i ffordd o leihau nifer y llefydd gwag yn ysgolion cynradd Llanrhymni felly yn flaenoriaeth." 

Gellir gweld copi o'r adroddiad i'w ystyried gan y Cabinet ar-lein yn  www.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd.