Back
Landlord yn euog o fethu â rhoi gwybodaeth


 

Mae canlyniadau difrifol i fethu â darparu gwybodaeth y mae Rhentu Doeth Cymru yn gofyn amdani ar gyfer cofrestru a thrwyddedu, fel y dysgodd un landlord o Gaerdydd yr wythnos hon.

 

Cafwyd Alun Fowler o Church Lane, Caerdydd yn euog yn ei absenoldeb o droseddau o dan Adran 38Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud hi'n ofynnol rhoi manylion i Rhentu Doeth Cymru am ei eiddo rhent.

 

Clywodd Llys Ynadon fod Mr Fowler wedi cofrestru naw eiddo rhent yn ei enw ei hun yn anghywir pan ddylent fod wedi'u cofrestru gan naill ai ei wraigAleksandra Fowler, a enwir ar y weithred deitl, neu ei gwmni cyfyngedig Cwch Ltd y dywedodd oedd yn gweithredu fel landlord uniongyrchol yr eiddo.

 

Er gwaethaf ymdrechion gan Rhentu Doeth Cymru i sefydlu perchnogaeth yr eiddo er mwyn iddo gydymffurfio â'r gyfraith, methodd Mr Fowler â darparu gwybodaeth ddilys. Hefyd, clywodd y llys fod dal angen y wybodaeth gywir ac mae'r naw eiddo rhent dal i fod wedi'u cofrestru'n anghywir. 

 

Cafodd Mr Fowler ddirwy o £2,500 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £1,400 a thâl dioddefwr o £170.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, sef yr awdurdod trwyddedu sengl ar gyfer Rhentu Doeth Cymru, y Cyng. Lynda Thorne: "Gall methu â rhoi gwybodaeth i Rhentu Doeth Cymru fod yr un mor niweidiol i landlord sy'n rhentu a gosod eiddo â chollfarn am fethu â chofrestru a chael trwydded.Collfarn yw collfarn, a gall effeithio ar allu landlord i fodloni'r meini prawf 'person addas a phriodol' sy'n cael eu defnyddio i benderfynu ar bob cais am drwydded.

 

"Y neges i landlordiaid yw, gweithiwch gyda ni.Peidiwch â chladdu eich pen yn y tywod, oherwydd gallai methu â gweithredu arwain at gael  eich erlyn."