Back
Gweithio’n gydweithredol i gwrdd â’r her

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi ennill y wobr gyntaf yng ngwobrau Cyngor Cydweithredol y Flwyddyn ar gyfer ei ymagwedd gydweithredol at fynd i'r afael â nifer o faterion yn y ddinas.

Wedi'u trefnu gan Co-operatives UK, mae'r wobr newydd o Gyngor Cydweithredol y Flwyddyn yn cydnabod arfer gorau fel y dangosir gan awdurdodau lleol cydweithredol, gan ddathlu gwaith gwych a wneir ar lefel leol.  

Mae Cyngor Caerdydd yn aelod o Rwydwaith Arloesedd Cynghorau Cydweithredol (CCIN), sy'n gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, sydd wedi ymrwymo i drawsnewid y ffordd maent yn gweithio gyda chymunedau.Mae'r sefydliad yn ceisio hyrwyddo datblygu polisïau cydweithredol, arloesedd ac eiriolaeth trwy helpu cynghorau i roi polisïau ac egwyddorion cydweithredol ar waith.

Mae'r Cyngor wedi defnyddio ymagweddau cydweithredol er mwyn arwain a ffurfio ymatebion i nifer o heriau yn y ddinas, gan gydnabod bod gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i gyflawni nodau cyffredin.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden:"Rwyf wrth fy modd bod y Cyngor wedi cael ei gydnabod am y gwaith cydweithredol gwych sy'n digwydd ar draws yr awdurdod ac yn y ddinas.

"Rydym yn gwybod nad oes gennym fonopoli ar syniadau da, felly trwy weithio gyda phartneriaid, boed yn drigolion neu fusnesau lleol, ac annog pawb i gyfrannu, gallwn ffocysu ein hegni a'n creadigrwydd ar y cyd ar fater penodol."

Cafodd yr ethos cydweithredol ei gymhwyso i nifer o raglenni gan gynnwys Addewid Caerdydd, sydd â'r nod o sicrhau bod pobl ifanc yng Nghaerdydd yn cael cymorth, dewisiadau a chyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fod yn bersonol llwyddiannus, yn economaidd actif ac yn ddinasyddion wedi'u hymgysylltu.Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar leihau cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), o 8.8% yn 2010 i 1.6% yn 2017. 

Yn ogystal, bu'r rhaglen Prentisiaethau Iau, a lansiwyd ym mis Medi 2016 mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a'r Fro, yn llwyddiannus wrth gynnig rhaglen amser llawn sy'n canolbwyntio ar yrfa i nifer ddethol o fyfyrwyr 14-16 oed yng Nghaerdydd.Yn ddiweddar enillodd y rhaglen ddyfarniad Beacon ar gyfer Addysg a Hyfforddiant ôl-16, ac mae'n cael ei gyflwyno'n raddol ledled Cymru.

Mae'r Cyngor hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â phreswylwyr i helpu i lanhau strydoedd lleol trwy'r ymgyrch ‘Carwch Eich Cartref' ledled y ddinas, sydd wedi cynnwys ymgyrchoedd glanhau cymdogaethau, casglu sbwriel yn y gymuned a chodi ymwybyddiaeth am ailgylchu ymhlith preswylwyr.

Mae mentrau newydd yn cynnwys gwaith y Cyngor i ddatblygu Strategaeth Cerddoriaeth - gan gydweithio gyda cherddorion, hyrwyddwyr a lleoliadau i edrych ar y gwerth y gall cerddoriaeth ei gynnig i'r ddinas.Mae cyfraniad gan staff yn hanfodol i lwyddiant y cyngor ac mae gwasanaethau allweddol wedi derbyn dyfarniadau sy'n cydnabod arfer arweiniol ac hefyd enwyd y Cyngor yn Hyrwyddwr Cyflog Byw i Gymru 2017-18, i gydnabod y ‘cyfraniad rhagorol i ddatblygu'r Cyflog Byw yng Nghymru, y tu hwnt i ofyniadau achrediad'.

Mewn pleidlais ar-lein, daeth Cyngor Caerdydd yn gyntaf allan o saith o enwebedigion.