Back
Y Cyngor yn Dewis Digidol gyda'r App 'Cardiff Gov' newydd
Mae gan drigolion Caerdydd ffordd newydd o gysylltu'n ddigidol gyda'r cyngor yn dilyn lansiad yr App 'Cardiff Gov'.

Mae'r App am ddim ar gyfer ffonau symudol ac ar gael trwy Google Play Store a siop apiau Apple. Mae'n anfon nodyn atgoffa pan fydd hi'n amser i chi roi eich ailgylchu a'ch gwastraff allan i'w casglu.

Drwy alluogi’r defnydd o leoliad ar ddyfais, gall trigolion roi gwybod i’r cyngor am union leoliad y tipio anghyfreithlon. At hynny, gellir cynnwys hyd at dri llun o’r tipio anhgyfreithlon gyda’r adroddiad.

Mae'r app hefyd yn caniatáu i drigolion wirio eu cyfrif Treth Gyngor unrhyw bryd, gyda mwy o wasanaethau a swyddogaethau i'w hychwanegu dros y misoedd nesaf.

Dywedodd y Cyng Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae preswylwyr yn disgwyl cael mwy o fynediad at ein gwasanaethau'n ddigidol, a dylai'r mynediad hwnnw fod yr un peth â'r mynediad digidol y maent yn ei fwynhau mewn meysydd eraill o'u bywydau. Mae lansio app Cardiff Gov yn gam tuag at gyflawni'r nod hwnnw ac mae'n darparu ffordd newydd a mwy clyfar o gysylltu â ni, bob awr o'r dydd.

"Rydym yn benderfynol o barhau i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau'r cyngor. Mae gwneud hynny wrth wynebu cyfyngiadau cyllidebol parhaus yn golygu boddewis y digidolyn hanfodol, gan wneud y defnydd gorau posibl o dechnoleg."

I lawrlwytho'r app chwiliwch am ‘Cardiff Gov' yn Google Play Store neu siop apiau Apple er mwyn ei osod ar eich ffôn. Os oes angen, gall trigolion gael help i lawrlwytho a gosod yr app trwy ymweld ag un o'u Hybiau lleol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy: #CarDIFFGov