Back
Plant ysgol ifanc Caerdydd yn cael blas ar fyd o gyfleoedd

Dyma enwau mawr Caerdydd o fyd busnes, y celfyddydau a diwylliant yn ôl mewn ysgolion am yr ail wythnos er mwyn siarad â'r plant am gyfleoedd gyrfaoedd yn y ddinas. 

Nod yr ymweliadau Open Your Eyes yw codi uchelgeisiau gyrfaol a chan gychwyn heddiw, bu 38 o fusnesau a sefydliadau o Gaerdydd a'r ddinas-ranbarth ehangach yn ymweld â 16 ysgol yn ardaloedd clwstwr Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Fitzalan. 

Gan ddefnyddio'r cysylltiadau a grëwyd trwy Addewid Caerdydd, bydd Open Your Eyes eleni'n cynnwys mwy o fusnesau a sefydliadau yn ymweld â mwy o ysgolion ac yn siarad â mwy o blant a phobl ifanc nag erioed yn y tair blynedd diwethaf. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Open Your Eyes yn chwarae rôl bwysig mewn helpu plant a phobl ifanc i gynnal eu brwdfrydedd dros ddysgu, gan sicrhau eu bod yn mynd ymlaen i gyflogaeth, addysg bellach neu hyfforddiant wedi gadael yr ysgol a manteisio'n llawn ar economi fodern, fyw a deinamig Caerdydd. 

"Trwy gyflwyno byd o gyfleoedd iddynt, gallwn helpu plant a phobl ifanc i ddechrau edrych ymlaen ac ystyried gyrfaoedd na fydden nhw'n eu hystyried fel arall. Wrth godi uchelgeisiau ar gyfer eu dyfodol, gallwn ni eu hannog i lwyddo mewn addysg, eu hysgogi i lwyddo a gwireddu'r uchelgeisiau. 

"Mae'n wych gweld Open Your Eyes ar gael i gymaint o blant a phobl ifanc a bod hyd yn oed mwy o fusnesau a sefydliadau wedi ymuno i sôn am y cyfleoedd gyrfa gwych sydd ar gael yng Nghaerdydd a'r ddinas-ranbarth." 

Mae Ysgol Gynradd Kitchener yn Nglan-yr-afon yn un o'r ysgolion sy'n rhan o Open Your Eyes eto eleni, a heddiw bu Gleision Caerdydd yno. 

Gan ddisgrifio manteision ymweliadau fel y rhain, dywedodd y Pennaeth, Mrs Ruth Jackson: "Rwy'n angerddol am ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth plant o ran y cyfleoedd iddyn nhw yma yng Nghaerdydd. 

"Mae Open Your Eyes yn rhoi blas i blant ar fywyd gwaith drwy sefydlu cysylltiad gyda nhw a rhywun o faes neu yrfa benodol. Yn allweddol, mae sefydliadau mawr yn cynnig ystod o swyddi, felly mae rhywbeth i bawb beth bynnag fo'u cyflawniad academaidd neu eu cymwysterau galwedigaethol." 

Mae Addewid Caerdydd yn nodi sut y bydd y Cyngor, ynghyd ag ystod eang o bartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector yn cydweithio i sicrhau bod pen taith pob person ifanc yng Nghaerdydd yn gadarnhaol ar ôl yr ysgol, naill ai mewn cyflogaeth neu addysg bellach a hyfforddiant. 

Dyma'r 38 busnes a sefydliad sy'n cymryd rhan yn Open Your Eyes eleni: Admiral Law; BBC Wales; Better Caerdydd; Blake Morgan Law; Cymdeithas Dai Cadwyn; Gleision Caerdydd, Cyngor Trydydd Sector Caerdydd, Prifysgol Caerdydd; Celsa Steel; Digital Profile; FOR Cardiff; Hilton Caerdydd; CThEM; ISG Construction; ITV Wales; Kier Construction; Lovells; Mandy St John Property Developer; Microsoft; Millennium FX; Morgan Sindall; Theatr Genedlaethol Cymru; Network Rail; Orchard Media; Gwesty'r Park Plaza; Powell Dobson; PricewaterhouseCoopers; Radisson Blu Caerdydd; y Llu Awyr; Santander; Selco; Heddlu De Cymru; Specsavers; Prifysgol De Cymru; Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru; Canolfan Mileniwm Cymru; Opera Cenedlaethol Cymru; Undeb Rygbi Cymru. 

Dywedodd Alice Knapman, Rheolwr Adnoddau Dynol Gwestai Hilton: "Rwy'n teimlo'n gryf dros ysbrydoli pobl ifanc i ymuno â'r diwydiant lletygarwch a llwyddo mewn gyrfa wych. Yn y diwydiant lletygarwch, rydych chi'n cwrdd â phobl newydd bob dydd, yn meithrin cyfeillgarwch gwych ac yn gallu teithio a gweld y byd. 

"Dechreuais i weithio gyda Hilton trwy leoliad pythefnos yn ystod fy nghyfnod yn y coleg. Rwyf i wedi gweithio mewn 10 Gwesty Hilton ac mewn 8 mlynedd, rwyf i wedi dyrchafu i fod yn Rheolwr AD dros dri Gwesty Hilton."