Rydym yn gofyn i fyfyrwyr gynllunio ymlaen llaw cyn gadael eu llety rhent yr haf hwn.
Rydym yn rhybuddio myfyrwyr y cânt Hysbysiad Cosb Benodedig o rhwng £100 a £400 os byddant yn gadael gwastraff ar y palmant ar unrhyw ddiwrnod heblaw eu diwrnod casglu.
Yn amodol ar y cytundeb tenantiaeth, os caiff eitemau neu wastraff swmpus eu gadael y tu mewn i'r eiddo, neu yn yr ardd flaen neu'r ardd gefn, bydd y landlord yn symud yr eitemau hyn ac yn tynnu arian oddi ar fond yr eiddo.
Mae'r Ymgyrch Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd yn bartneriaeth rhwng y prifysgolion, y Cyngor a'r YMCA ac mae wedi'i dylunio fel y gall myfyrwyr glirio eu tai yn gyfrifol cyn iddynt symud allan - heb fod angen gadael eitemau diangen allan ar y stryd pan nad yw hi'n ddiwrnod casglu.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Mae angen i bob myfyriwr gynllunio ymlaen llaw pan fydd yn gadael ei eiddo rhent fel bod unrhyw wastraff nad oes modd ei ailgylchu neu ei ddefnyddio yn cael ei roi allan i'w gasglu ar y diwrnod casglu cywir.
"Mae methu â gwneud hyn yn gwneud llefydd yn flêr iawn ac mae bagiau sbwriel yn aml yn cael eu rhwygo ar agor gan wylanod, gan achosi lefelau mawr o sbwriel ar y stryd. Os bydd myfyrwyr yn dal ati i wneud hyn, byddant yn cael Hysbysiad Cosb Benodedig. Mae llawer o amser ac ymdrech wedi'u rhoi i mewn i gynlluniau ailgylchu ac ailddefnyddio amrywiol drwy'r Ymgyrch Caru Caerdydd Cyn i Chi Fynd, a gofynnwn i bawb gynllunio ymlaen llaw a defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael."
Mae cynlluniau ailgylchu ac ailddefnyddio niferus wedi'u gweithredu fel y gall myfyrwyr ailgylchu neu roi unrhyw eitemau diangen cyn iddynt adael y ddinas.
Y llynedd cafodd dros 21 tunnell o eitemau diangen eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu drwy'r cynllun hwn.
Mae'r cyfleusterau canlynol ar gael:
Aeth y Cynghorydd Michael yn ei flaen i ddweud: "Hoffwn ddiolch i bob partner sy'n rhan o'r cynllun hwn, a gobeithio y gallwn ledaenu'r neges i fyfyrwyr ynghylch pa mor bwysig yw hyn."