Back
Antur ganoloesol ryfeddol yng Nghastell Caerdydd


Mae'r grefft fonheddig honno - ymryson - yn dod i Gastell Caerdydd y penwythnos hwn - bydd The Knights of Royal England yn dychwelyd i'r ddinas.

 

Bydd Joust!, sy'n ffefryn ymysg teuluoedd, yn syfrdanu ac yn cyffroi, ac yn annog y dorf i floeddio a gwawdio mewn arddangosfa anhygoel o ymryson a marchogaeth ddydd Sadwrn 23 Mehefin a dydd Sul 24 Mehefin.

 

Gall ymwelwyr â'r digwyddiad dros y penwythnos ddisgwyl arddangosfa o sifalri, ymladd a marchogaeth heriol wrth i'r antur ganoloesol arbennig hon orchfygu'r castell.

 

Bydd Joust!, gyda cherddorion ar grwydr, straeon, parêd y plant a pharêd y dreigiau (y cyfan mewn gwersyll canoloesol lliwgar), yn ddiwrnod allan hudolus arall.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden:"Joust! yw un o uchafbwyntiau'r haf yng Nghastell Caerdydd, ac mae'n boblogaidd iawn ymysg teuluoedd bob blwyddyn.

 

"Mae'r marchogion yn ddewr, mae'r triciau'n drawiadol, ac mae'r awyrgylch yn drydanol.Mae'n ddiwrnod o sbort i bawb."

 

Rydym yn annog ymwelwyr ifanc â Joust! y penwythnos hwn i ddod mewn gwisg ffansi i gyfrannu at y golygfeydd gwych!

 

Mae tocynnau Joust!ar gael ymlaen llaw ar-lein ynwww.castell-caerdydd.comneu drwy ffonio 029 2087 8100. Gallwch hefyd brynu tocynnau ar y dydd yn Swyddfa Docynnau'r Castell.Gall plant dan 5 fynd am ddim ac mae gostyngiadau ar gael i ddeiliaid Allwedd y Castell neu Docyn Tymor yn Swyddfa Docynnau'r Castell.

 

Ewch iwww.castell-caerdydd.comi gael rhagor o wybodaeth.