Back
Cynlluniwch ymlaen llaw os ydych chi’n ymweld â Chaerdydd ar gyfer cyngherddau Ed Sheeran

Bydd Ed Sheeran yn chwarae yng Nghaerdydd am bedair noson o'r bron - sy'n ddigynsail - gyda'r digwyddiad cyntaf yn dechrau ddydd Iau 21 Mehefin a'r gig olaf yn digwydd ddydd Sul 24 Mehefin.

Am gyfer pob un o'r pedwar digwyddiad bydd Twnnel Hafren ar gau ar gyfer gwaith gwella'r rheilffordd, gyda siwrneiau pell rhwng Llundain a Chaerdydd yn rhedeg ar lwybr gwyro a fydd yn ychwanegu 40 munud at yr amser teithio oherwydd ni fydd y gwasanaethau'n galw yn Bristol Parkway.

Mae'r holl docynnau wedi'u gwerthu ar gyfer pob digwyddiad, felly bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau yng Nghaerdydd ar bob noson, gan ddechrau am 5.30pm a gorffen am 11.30pm.

Disgwylir i'r ffyrdd a'r traffyrdd i mewn i Gaerdydd fod yn brysur iawn, yn arbennig ar ddydd Iau a dydd Gwener gyda thraffig cymudo yn gadael y ddinas. Dylai pawb sy'n dod i Gaerdydd adael digon o amser ar gyfer eu taith ac archebu parcio a theithio ymlaen llaw neu le parcio drwyhttps://www.parkjockey.com/principality-stadium

Dylai pawb sydd â thocyn nodi y bydd gwiriadau diogelwch manwl ar waith wrth fynd i mewn i'r stadiwm.Cynghorir cefnogwyr i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir yn principalitystadium.cymru cyn teithio i'r ddinas.

Trenau

MaeGreat Western Railwayyn rhoi gwybod i gwsmeriaid y bydd gwasanaethau i ac o dde Cymru yn cael eu heffeithio gan waith i wella'r rheilffordd rhwng Bryste a Chasnewydd.

O ganlyniad, bydd gwasanaethau GWR i ac o Gaerdydd yn rhedeg ar amserlen wahanol.

Dylai cwsmeriaid gadarnhau eu siwrneiau ymlaen llaw ar www.nationalrail.co.uk neu drwy ffonio Travel Line Cymru ar 0800 464 0000.

Gwybodaeth am wasanaeth: I mewn i orsaf Caerdydd Canolog

  • Bydd un trên yr awr yn rhedeg o Lundain Paddington i orsaf Caerdydd Canolog ac ni fydd yn galw yn Bristol Parkway (bydd y gwyriad yn ychwanegu tua 40 munud i'r amser teithio arferol);
  • O Portsmouth/Taunton i orsaf Caerdydd Canolog, bydd gwasanaethau trên yn gorffen yn Bristol Parkway yn hytrach na gorsaf Caerdydd Canolog; bydd gwasanaeth bws yn cymryd lle trenau rhwng Bristol Parkway a Chasnewydd; trenau'n rhedeg o Gasnewydd i orsaf Caerdydd Canolog.

Gwybodaeth am wasanaeth: Allan o orsaf Caerdydd Canolog ar ôl digwyddiadau 

  • Ni fydd trenau'n rhedeg i Lundain Paddington
  • Bydd bysus yn cymryd lle trenau, gan redeg o orsaf Caerdydd Canolog yn uniongyrchol i Bristol Parkway a Bristol Temple Meads.

MaeTrenau Arriva Cymruyn rhoi gwybod i gwsmeriaid y disgwylir i orsaf Caerdydd Canolog fod yn eithriadol o brysur dros y pedwar diwrnod.

Ar ôl y cyngherddau, dylai ffans ddefnyddio gorsaf Caerdydd Canolog lle bydd system giwio ar waith. Bydd trefniadau ‘gadael yn unig' ar waith o 10pm yn Heol-y-Frenhines Caerdydd felly ni all cwsmeriaid ddefnyddio Heol-y-Frenhines Caerdydd ar ôl y gyngerdd. Bydd bysus yn cymryd lle trenau i gwsmeriaid sy'n teithio i Fryste gan fod Twnnel Hafren ar gau.

Caiff rhagor o le ei ddarparu lle bo'n bosibl, fodd bynnag, ar ôl y digwyddiadau, cyfyngedig iawn fydd y gwasanaethau trên.

 

Nodwch, ar ddydd Sul 24 Mehefin, er y caiff rhagor o le ei ychwanegu yn ystod y dydd, bydd y trenau'n rhedeg yn unol ag amserlen arferol dydd Sul a chyfyngedig iawn fydd y lle yn ardal Caerdydd, yn enwedig ar y gwasanaethau ar ôl y cyngerdd. Cynghorir cwsmeriaid i gynllunio eu taith adref ymlaen llaw o gofio'r gwasanaethau cyfyngedig a fydd ar gael ar ôl y digwyddiad.

Dylech wirio'r cynlluniau ar gyfer eich taith cyn cychwyn arni arwww.arrivatrains.wales. I gael y cyngor diweddaraf ar deithio ar y diwrnod, dilynwch ni ar Twitter @arrivatw

Cau ffyrdd

O 7am bydd Heol Scott a Heol y Parc ar gau fel y gall staff baratoi Gât 5 i ddiogelu ffans sy'n ciwio.

Bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau rhwng 5.30pm ac 11.30pm. Bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
  • Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy'r dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio i'r digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Sylwer: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Bws

Bysus lleol: 
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin. 

MaeBws Caerdyddyn rhoi gwybod i'w cwsmeriaid y bydd yr holl wasanaethau sydd wedi'u heffeithio gan y ffyrdd fydd ar gau yn cael eu dargyfeirio i bwyntiau lloeren am 3pm.
 
Ar gyfer yr holl weithredwyr bws eraill, ewch i'w gwefannau i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer. 

Parcio a Theithio ar gyfer y Digwyddiad

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.

I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i - https://www.parkjockey.com/principality-stadium

Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle.

Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 11.30am a bydd y safle yn agor am 11.45am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am hanner dydd. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 11.30pm a bydd y maes parcio'n cau am hanner nos.

Traffyrdd a chefnffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir pawb sydd â thocynnau i gynllunio ymlaen llaw gan roi ystyriaeth i draffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4

Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer:  Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 11.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £12, neu £15 ar y diwrnod (arian parod yn unig). I gadw lle parcio ymlaen llaw, cliciwch ar:https://www.parkjockey.com/principality-stadium(ar gael i geir yn unig).

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Os bydd cwsmeriaid yn archebu ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.

Parcio i Bobl Anabl

Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 5.30pm ac yn ailagor am 11.30pm.