Back
Dealltwriaeth well o effaith sbwriela a thipio anghyfreithlon


Gofynnir i drigolion Caerdydd am eu safbwyntiau ar daclo sbwriela a thipio anghyfreithlon fel rhan o astudiaeth gynhwysfawr gan Aelodau'r Pwyllgor Craffu Amgylcheddol. 

 

Bydd arolwg ar-lein yn mynd yn fyw ddydd Llun fel rhan o raglen waith a fydd hefyd yn cynnwys cysgodi staff glanhau stryd rheng flaen a dadansoddiad manwl o sut mae dinasoedd craidd eraill y DU yn mynd i'r afael â sbwriela.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Rwyf wir yn gobeithio y bydd ein hastudiaeth yn y pen draw yn helpu i gefnogi mentrau gan Gyngor Caerdydd sydd â'r nod o fynd i'r afael ag effaith sbwriela a thipio anghyfreithlon.Rwy'n siŵr bod trigolion yn rhannu fy nicter pan rwy'n gweld sbwriel a deunyddiau wedi'u dympio mewn mannau cyhoeddus. Bydd dealltwriaeth well o farn y cyhoedd ar y mater hwn yn llunio rhan bwysig o'n hargymhellion i'r Cabinet, felly rwy'n annog cymaint o bobl â phosibl i rannu eu barn gyda ni. 

 

Mae'r arolwg ar-lein yn cymryd llai na phum munud i'w gwblhau a bydd yn cael ei hyrwyddo ar wefan Cyngor Caerdydd a'i blatfformau cyfryngau cymdeithasol am gyfnod o 3 wythnos yn dechrau ddydd Llun 18 Mehefin. Bydd copïau caled hefyd ar gael mewn Hybiau Cymunedol, Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden.Bydd y rheiny sy'n cwblhau'r arolwg hefyd yn cael eu rhoi mewn cystadleuaeth raffl am gyfle i ennill talebau i Ŵyl Traeth Bae Caerdydd Capital FM a gynhelir rhwng 6 Gorffennaf a 2 Medi.