Back
Mae fferm solar newydd ar gyfer y ddinas wedi’i chymeradwyo gan y Cabinet

 

Mae disgwyl i fferm solar newydd, y gellid ei hadeiladu ar hen safle tirlenwi Ffordd Lamby a chynhyrchu 7.5 Megawat o drydan gwyrdd, gael ei chymeradwyo.

Os yw'r Cabinet yn cymeradwyo'r prosiect hwn yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin, gallai'r gwaith ddechrau ar y safle mor gynnar â mis Ebrill 2019. Disgwylir i'r fferm solar fod wedi'i hadeiladu ac yn barod i'w chomisiynu erbyn mis Medi 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu:

"Mae achos busnes wedi'i gynhyrchu a dros oes y prosiect, sef 35 mlynedd, gallai'r fferm solar, gan gynnwys costau gweithredol a chostau cynnal a chadw, gostio tua £14.9m i'r cyngor.

"Yn ystod yr un cyfnod amser, rhagwelir y gallai'r trydan gwyrdd hwn gynhyrchu incwm o dros £21m. Yn yr achos hwn, mae'r achos busnes yn dangos y gall y Cyngor leihau ei allyriadau carbon a chyfrannu at y gwaith o gynyddu mwy o ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Gallai hefyd gynhyrchu incwm i'r Cyngor o safle sy'n anodd ei ddatblygu fel arall". 

"Hefyd yn ddiweddar, pennais gynlluniau'r Cyngor ar drafnidiaeth ag allyriadau isel ar gyfer y ddinas, ac mae'r cynllun hwn yn cyflwyno sawl cyfle arloesol, gan gynnwys y posibilrwydd i bweru ein fflyd ein hunain o gerbydau trydan pan fyddant yn weithredol. Nid yw'r budd ychwanegol hwn yn rhan o'r achos busnes ar hyn o bryd, ond mae ganddo'r potensial i wneud y cynllun hyd yn oed yn fwy deniadol i'r cyngor."

Yn rhan o'r cynllun, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda sefydliad sydd wedi'i leoli'n agos at y safle. Mae'r busnes wedi cytuno, mewn egwyddor, i ddefnyddio 4.5 Megawat o ynni gwyrdd o'r fferm solar dros gyfnod o 20 mlynedd, a bod y 3.5 Megawat o drydan sy'n weddill yn cael ei werthu i'r Grid Cenedlaethol.

Ar ddiwedd y cyfnod 20 mlynedd, bydd y cyfan o'r 7.5 Megawat o ynni a gynhyrchir yn cael ei werthu o'r Grid Cenedlaethol am y 15 mlynedd sy'n weddill o'r prosiect.

Aeth y Cynghorydd Michael yn ei flaen i ddweud: "I gychwyn yn 2010, roedd y Cyngor yn archwilio'r posibilrwydd o brydlesu'r safle yn Ffordd Lamby i'r sector preifat, fel y gallai'r cwmni buddugol adeiladu fferm solar. 

"Yn fuan ar ôl cael caniatâd gan y Cabinet i brydlesu'r tir, cafodd y Llywodraeth Ganolog wared ar gymorthdaliadau i ffermydd solar yn y DU. Yn rhan o'r paratoadau a wnaethpwyd ar gyfer y safle, mae'r Cyngor eisoes wedi datblygu cysylltiad Grid Cenedlaethol yn yr ardal.

"Drwy'r newid polisi hwn gan y Llywodraeth Ganolog, effeithiwyd ar nifer o gynlluniau solar y bwriadwyd eu hadeiladu ar draws y DU. Ers hynny, mae cost paneli solar ar y ddaear wedi gostwng gan dri chwarter y pris gwreiddiol a bennwyd yn 2010. Mae'r gostyngiad hwn mewn cost, ynghyd â gwerthu'n uniongyrchol rywfaint o'r ynni i sefydliadau cymdogol, wedi gwneud y cynllun arfaethedig presennol yn hyfyw ac edrychaf ymlaen at weld pa mor gystadleuol fydd y cynigwyr wrth gynnig prisiau am y contract.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n amlwg fod yn rhaid i bob sefydliad sector cyhoeddus fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030. Erbyn 2030, dywedwyd wrthym fod yn rhaid i 70% o'r holl ynni a ddefnyddir yng Nghymru ddod o ffynonellau ynni adnewyddadwy yng Nghymru gydag o leiaf 1 Gigawat o'r trydan hwn a gynhyrchir yn eiddo i'r ardal leol. Heb amheuaeth, bydd y cynllun hwn yn helpu i fwrw'r targed hwn a chyfrannu tuag at arbedion carbon Caerdydd."

Dyma'r argymhellion i'r Cabinet:

  • Caniatáu i swyddogion lunio cais cynllunio ar gyfer y datblygiad
  • Terfynu'r trafodaethau gyda'r busnes sy'n agos at y safle a fydd yn defnyddio trydan gwyrdd dros gyfnod o 20 mlynedd 
  • Dechrau'r broses dendro am gontractwr adeiladu a chynllunio i adeiladu'r fferm solar