Back
DIWEDDARIAD – Rhoi stop ar dipio anghyfreithlon

Mae'r Cyngor yn ystyried ffyrdd o i wella'r gwaith o adrodd, monitro, goruchwylio a gweithredu yn erbyn unigolion sy'n tipio'n anghyfreithlon yng Nghaerdydd.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod amrywiaeth o fesurau pellach i fynd i'r afael â'r gweithgarwch anghyfreithlon hwn yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin. Mae'r mesurau hynny'n cynnwys y canlynol:

  • Defnyddio deddfwriaeth ddiwygiedig i gyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig o £400 ar gyfer achosion bach yn erbyn troseddwyr tro cyntaf
  • Cynyddu goruchwyliaeth gan ddefnyddio camerâu isgoch newydd mewn mannau lle mae achosion o dipio anghyfreithlon ar eu mwyaf niferus
  • Gweithio'n agosach gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i adrodd, monitro a rhannu gwybodaeth am adael sbwriel yn anghyfreithlon.

 

Mae tipio anghyfreithlon yn costio £230,000 i dalwyr y dreth gyngor bob blwyddyn yng Nghaerdydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am ddelio â'r holl achosion tipio anghyfreithlon mawr yng Nghymru, ond mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddelio â'r achosion llai.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu:

"Yng Nghaerdydd, rydym yn aml yn gweld gwastraff y cartref yn cael ei adael yn anghyfreithlon, ac ar hyn o bryd, ni allwn gyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer tipio'n anghyfreithlon.Yn hytrach, rhaid mynd â'r achosion gerbron y llys a gellir rhoi dirwy o hyd at £50,000 os ceir y person yn euog o gyflawni trosedd tipio'n anghyfreithlon neu gallai wynebu hyd at 12 mis yn y carchar, neu'r ddau.

 "Bydd defnyddio Hysbysiadau Cosb Benodedig yn ffordd fwy cymesur o ddelio ag achosion tipio'n anghyfreithlon ar gyfer troseddwyr untro, yn hytrach na mynd â'r achosion hyn gerbron Llys yr Ynadon. Drwy gyflwyno'r ddeddfwriaeth ddiwygiedig, rydw i'n falch fod fy nghydweithwyr yn y cabinet wedi cytuno ar ddirwy o £400 ar gyfer y troseddau hyn - heb gyfle i gael gostyngiad talu'n gynnar - er mwyn anfon neges glir na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef.

"Does dim esgus. Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu sbwriel ymyl y ffordd helaeth a gellir gwaredu ar holl eitemau gwastraff eraill y cartref am ddim yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Ar gyfer preswylwyr heb gar, rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu eitemau mawr y cartref o gartrefi pobl, ac mae'r casgliad am ddim os gellir ailgylchu'r gwastraff.

"Nid yw cyflwyno'r mesurau ychwanegol hyn yn golygu na fyddwn yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn troseddwyr parhaus, os bernir bod hynny'n angenrheidiol.Byddwn yn treialu gwahanol fathau o gamerâu isgoch y gellir eu gosod yn amlwg ac yn gudd i ddal unigolion sydd wrthi'n tipio'n anghyfreithlon.

"Mae'r Cyngor hefyd yn datblygu app newydd sy'n galluogi preswylwyr i roi gwybod am achosion o dipio anghyfreithlon i'r Cyngor yn haws, a thrwy weithio'n agosach gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gwella ein systemau a rhannu gwybodaeth drwy feddalwedd a rennir, byddwn yn helpu ein gilydd i wella'r sefyllfa."

"Mae gan breswylwyr ddyletswydd o ofal i sicrhau eu bod yn cael gwared ar eu gwastraff cartref yn gywir. Os daw'r Cyngor i wybod am breswylydd sydd wedi tipio'n anghyfreithlon, gall y preswylydd hwnnw gael ei erlyn.

"Cynghorir preswylwyr i ofyn am dystiolaeth bod yr unigolyn sy'n cael gwared ar wastraff o'u heiddo yn gludydd gwastraff cofrestredig. Dylid nodi enw'r unigolyn a'r cwmni a dylid rhoi derbynneb yn nodi'r swm a dalwyd ar gyfer gwaredu'r gwastraff ac i le mae'r gwastraff yn cael ei gludo.

"Gofynnir i breswylwyr hefyd gymryd manylion y car sy'n cael gwared ar y gwastraff, gan gynnwys math y cerbyd, y lliw a'r manylion cofrestru."

  • Diffinnir tipio anghyfreithlon bach fel troseddwyr tro cyntaf yn gadael gwastraff nad yw'n beryglus, sef hyd at 8 bag du neu fŵt car llawn gwastraff, neu un neu ddwy eitem swmpus.
  • Cynhelir unrhyw oruchwyliaeth gudd yn unol â Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio