Bydd y Rolling Stones yn perfformio yn Stadiwm Principality ddydd Gwener15 Mehefin. Bydd rhai o ffyrdd canol y ddinas ar gau o 5.30pm i 11.30pm i helpu gyda'r digwyddiad.
Dylai pawb sydd â thocyn nodi y bydd gwiriadau diogelwch manwl ar waith wrth fynd i mewn i'r stadiwm.Cynghorir cefnogwyr i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir yn principalitystadium.cymru cyn teithio i'r ddinas.
Mae'r amseroedd cau ffyrdd yn dangos am ba mor hir y gall yr awdurdodau gau'r ffyrdd dan y gyfraith drwy'r Gorchymyn Rheoli Traffig.Os bydd y torfeydd yn gwasgaru'n gyflymach na'r disgwyl, bydd y ffyrdd yn agor cyn gynted â phosibl ar ôl i'r digwyddiad orffen.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas (5.30pm tan 11.30pm)
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio i'r digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys:Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Sylwer:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Cynghorir cefnogwyr felly i gynllunio i gyrraedd y stadiwm mewn da bryd, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau sydd wedi'u gwahardd yn www.principalitystadium.cymru
Trenau
Nid oes unrhyw waith peirianneg wedi'i gynllunio ar y rheilffordd yn ystod y digwyddiad hwn.Dylai pawb sy'n teithio i Gaerdydd ar drên ganiatáu digon o amser i ddod i mewn i Gaerdydd ac i mewn i'r stadiwm.
Bydd gwaith i ddiweddaru'r rheilffordd yn effeithio ar y rheini sy'n aros yng Nghaerdydd dros nos ddydd Gwener 15 Mehefin ac sy'n teithio i'r dwyrain tua Llundain a Bryste ddydd Sadwrn 16 Mehefin.Bydd teithiau hir rhwng Caerdydd a Llundain yn rhedeg ar lwybr gwyro, heb alw yn Bristol Parkway.Ar gyfer y rheini sy'n teithio i Fryste, bydd gwasanaeth bws yn rhedeg rhwng Casnewydd a Bristol Parkway, gyda threnau cysylltiol i Bristol Temple Meads.
Dylai cwsmeriaid sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf ar y dydd drwy fynd i www.nationalrail.co.uk neu ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.
Mae Trenau Arriva Cymru yn cynghori cwsmeriaid y bydd gwasanaethau trên i ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd ac y bydd capasiti ychwanegol ar gael lle bynnag y bo'n bosibl.
Bydd system rheoli torfeydd ar waith yn dilyn y digwyddiad yng Ngorsaf Caerdydd Canolog.Bydd gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd ar gau ar ôl y digwyddiad, felly dylai pawb sy'n defnyddio rheilffordd y Cymoedd fynd i orsaf Caerdydd Canolog.
Mae'r holl wybodaeth am Wasanaethau Trenau Arriva yn ystod diwrnodau digwyddiadau ar gael yn www.arrivatrains.wales/events .
Parcio a Theithio ar gyfer y Digwyddiad
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.
I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i - https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle.
Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.
Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.
Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 11.30am a bydd y safle yn agor am 11.45am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am hanner dydd.Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 11.30pm a bydd y maes parcio'n cau am hanner nos.
Traffyrdd a chefnffyrdd
Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir pawb sydd â thocynnau i gynllunio ymlaen llaw gan roi ystyriaeth i draffyrdd a chefnffyrdd prysur.Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.
Parcio ar y Diwrnod
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno:Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4
Cost:£15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio:Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 11.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog.Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol.Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)
Cyrraedd yno:Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost:Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £15, neu £12 ar y diwrnod (arian parod yn unig).I gadw lle parcio ymlaen llaw, cliciwch ar: https://www.parkjockey.com/principality-stadium (ar gael i geir yn unig).
Amseroedd parcio:Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.
Os bydd cwsmeriaid yn archebu ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd.Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai.
Parcio i Bobl Anabl
Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 5.30pm ac yn ailagor am 11.30pm.
Bysus
Bysus lleol:
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd a fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.