Back
Cyngor teithio ar gyfer y gwaith celf torfol PROCESSIONS

 

Bydd menywod a merched o bob cwr o Gymru yn cerdded strydoedd Caerdydd ddydd Sul (10 Mehefin) i gymryd rhan mewn gwaith celf torfol unigryw yn dathlu can mlynedd o'r bleidlais i fenywod ym Mhrydain.

Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn Belfast, Caerdydd, Caeredin a Llundain. Ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerdydd, bydd yr orymdaith yn dechrau yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 2.00pm ac yn teithio o'r stadiwm i ganol y ddinas ar hyd Sloper Road, Leckwith Road, Wellington Street, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Stryd y Castell, Heol y Dug, Ffordd y Brenin, Heol y Gogledd gan orffen ym Mharc Bute - www.processions.co.uk

Argymhellwn i bawb sy'n cymryd rhan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd ni fydd parcio ar gael yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Bydd man gollwng hefyd ar gael yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Coetsis

  • Bydd parcio i goetsis yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd

Bysus

  • Bydd bws gwennol am ddim o Stryd y Gamlas, y tu cefn i Westy'r Marriott, i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd rhwng 11.30am a 2.30pm.
  • Os bydd cyfranogwyr yn teithio ar y rhwydwaith bwsdylent gynllunio eu taith ymlaen llawdrwyddefnyddio gwefannau'r gweithredwyr bws, oherwydd bydd ffyrdd ar gau.

Gwasanaethau trên

  • Mae trenau ar gael o orsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd a gorsaf Caerdydd Canolog i Grangetown ar wasanaeth Penarth. Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd 15 munud ar droed o Orsaf Drenau Grangetown.

Cau ffyrdd

Gan fod llawer o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiad, bydd ffyrdd ar gau am yn ail i sicrhau diogelwch pawb sy'n cymryd rhan.

Ar ôl i'r orymdaith basio, bydd ffyrdd yn ailagor i draffig a chynhelir mynediad drwy gydol y digwyddiad i Heol y Porth, Heol y Brodyr Llwydion, Tudor Street, Ninian Park Road a Heol y Gadeirlan.

Mae'r amseroedd canlynol yn rhai bras, ac yn seiliedig ar ba mor gyflym y disgwylir i'r orymdaith symud ar hyd y llwybr.

O 1.30pm i 3.30pm

  • Sloper Road, o'r gyffordd â Leckwith Road i'r gyffordd â Bessemer Road.
  • Leckwith Road o'r gyffordd â Sloper Road i'r gyffordd ag Atlas Road.

O 2pm i 4pm

  • Wellington Street o'r gyffordd â Leckwith Road i'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

 

O 1.30pm i 4pm

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i Heol y Porth.
  • Stryd y Castell, Heol y Dug, Ffordd y Brenin a Heol y Gogledd hyd at Column Road