Back
Carchar am dwyll yn erbyn y trethdalwr

 

Mae Luboya Tshibangu, 38, o Ashford Place yn Adamsdown, wedi'i garcharu am dair blynedd a hanner heddiw am dwyll yn erbyn Cyngor Caerdydd.

Mewn treial deuddydd o hyd, honnodd Mr Tshibangu ei fod yn reidio ei feic ar 16 Rhagfyr 2012 yn Noc Dwyreiniol Bute a'i fod wedi bwrw ceudwll gan gwympo oddi ar ei feic ac anafu ei bigwrn.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynodd Mr Tshibangu hawliad anaf personol o £15,912 am golli enillion a hawliad pellach o £119,861 am golli enillion yn y dyfodol.

Yn ystod y treial deuddydd o hyd, ni wadodd yr erlynydd Heath Edwards fod Mr Tshibangu wedi cwympo oddi ar ei feic, ond ei fod wedi ‘dyfeisio honiad a feiodd y cyngor am y ddamwain er budd personol'.

Galwyd ar ddau lygad-dyst gan yr erlynydd, Mr Nuno Silva a Miss Sarah Lewis, a esboniodd i'r rheithgor eu bod yna pan ddigwyddodd y ddamwain. Gwelodd Mr Silva y digwyddiad. Gwnaethant ddisgrifio'r ddaear fel ‘gwlyb' gan ddweud bod y ddamwain wedi'i hachosi gan olwyn flaen y beic yn llithro, yn hytrach na cheudwll, a bod y digwyddiad wedi digwydd y tu allan i'w fflat yn Galleon Way.

Ffoniodd Mr Silva 999 ar adeg y digwyddiad, gan fod y gwymp yn ‘galed iawn' a bod Mr Tshibangu ‘mewn poen ofnadwy'. Roedd Mr Silva yn ‘poeni am ei les'.

Rhoddwyd data GPS yr ambiwlans i'r rheithgor, a ddangosodd lle stopiodd yr ambiwlans o gymharu â'r digwyddiad.

Chwaraewyd recordiad o'r alwad 999 i'r rheithgor, ac roedd hwn yn rhan allweddol o achos yr erlynydd oherwydd esboniodd Mr Silva yn glir i'r gweithredwr fod y digwyddiad wedi digwydd y tu allan i'w fflat yn Galleon Way.

Yn gweithredu ar ran yr amddiffyn, dywedodd David Maunder wrth y rheithgor, gan fod y datganiadau wedi'u rhoi i'r heddlu gan Mr Silva a Miss Lewis ar 19 Gorffennaf 2017 a bod y digwyddiad wedi digwydd bum mlynedd yn gynharach, eu bod yn annibynadwy ac mai ‘nid Mr Silva a Miss Lewis a welodd y digwyddiad mewn gwirionedd.'

Dywedwyd wrth y rheithgor hefyd fod yr alwad 999 a wnaed yn rhoi gwybodaeth am gartref Mr Silva a Miss Lewis yn eu fflat, nid lle digwyddodd y ddamwain mewn gwirionedd.

Gwrthodwyd y fersiwn hon o ddigwyddiadau gan y rheithgor o bum dyn a saith menyw, a daethpwyd i ddedfryd o euog.

Cyn y dedfrydu, clywodd y llys fod gan Mr Tshibangu euogfarnau blaenorol o anonestrwydd yn 2006 am ddefnyddio dogfen ffug i fynd ar awyren, yn ogystal â thwyll budd-daliadau.

Wrth ei ddedfrydu, disgrifiodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clark y drosedd fel twyll difrifol, a dywedodd fod Mr Tshibangu wedi ‘ceisio defnyddio'r system gyfiawnder i dwyllo'r trethdalwr'.

Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clark: "Mae hwn yn achos o weithgarwch twyllodrus euogrwydd uchel dros gyfnod hir o amser, a oedd yn cynnwys cryn dipyn o gynllunio a threfnu."

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Justin Hawes o Adran Gorfodi Twyll Yswiriant Heddlu Dinas Llundain (IFED): "Defnyddiodd Tshibangu anaf go iawn i geisio beio'r cyngor. Sylwyd ar yr ymgais amlwg hon i dwyllo, ac mae gwaith IFED gyda'r cyngor a'i dîm cyfreithiol wedi ein galluogi i roi stop ar droseddu Tshibangu.

"Ni ddylai anafiadau go iawn fyth gael eu defnyddio fel esgus i roi bai ar gam neu or-ddweud er mwyn ceisio gwneud arian. Mae honiadau yswiriant ffug yn cynyddu'r gost i bawb sydd ag yswiriant. Mae'r canlyniad hwn yn dangos bod IFED yn cymryd y troseddau hyn o ddifrif a'u bod am roi stop arnynt."

Gan siarad ar ôl y dedfrydu, dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad yng Nghyngor Caerdydd: "Mae hwn yn achos lle mae rhywun wedi cael damwain a dolur, a cheisio rhoi'r bai ar y cyngor yn anghyfreithlon. Mae twyll yn drosedd ddifrifol a dwi'n gobeithio bod hyn yn anfon neges glir ein bod yn ymchwilio i'r materion hyn ac, os y caiff hawliadau ffug eu gwneud, y byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol i ddod â'r materion i'r llys."

Dedfrydwyd Luboya Tshibangu i dair blynedd a chwe mis yn y carchar. Caiff hanner y ddedfryd ei threulio yn y carchar a hanner ar drwydded.