Back
Yr Arglwydd Faer yn codi £38,000 ar gyfer natur
Mae'r elusennau RSPB Cymru a Buglife Cymru wedi derbyn siec am £38,195.89 gan gyn-Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire. 

Mae’r arian wedi’i godi o ganlyniad i weithgareddau codi arian y cyn-Arglwydd Faer yn ystod ei flwyddyn yn y swydd a oedd yn cynnwys ymgymryd â Her y Tri Chopa, nofio dwy filltir yn ei bwll lleol ac ymuno â phlant ysgol ar daith gerdded wedi'i noddi o amgylch Parc Bute.

Dywedodd cyn-Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Bob Derbyshire:   “Mae natur ar ein planed fregus yn wynebu sawl her - gobeithio bydd yr arian a godwyd yn ystod fy nghyfnod yn y swydd yn helpu'r ddwy elusen bwysig hyn i barhau â'r gwaith gwych maent yn ei wneud i warchod natur, yma yng Nghaerdydd.   Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd yn hael o’u hamser ac a roddodd arian i'm helpu i gyrraedd cyfanswm mor wych.” 

Dywedodd Robert Williams, Codwr Arian Cymunedol yn RSPB Cymru:  “Hoffem ddweud 'Diolch yn Fawr' i'r Cynghorydd Derbyshire ac i bawb a fu'n barod iawn i gefnogi RSPB Cymru a Buglife Cymru drwy waith Elusennol yr Arglwydd Faer.  Bydd y rhodd hael hon yn helpu i gefnogi ein gwaith Rhoi Cartref i Natur, gan gynnwys ein prosiect yng Nghaerdydd i ysbrydoli plant y ddinas i fentro allan i barciau a mannau gwyrdd arbennig Caerdydd i’w cyffroi a’u hysbrydoli gan y natur o'u hamgylch".  Robert Williams, Codwr Arian Cymunedol, RSPB Cymru

Dywedodd Clare Dinham, Buglife Cymru:  “Mae bod yn un o elusennau dewisedig yr Arglwydd Faer dros y flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi cyfle gwych i godi proffil anifeiliaid di-asgwrn-cefn a’n helusen yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru.  Bydd arian a godwyd yn uniongyrchol yn cefnogi ein gwaith cadwraeth yng Nghymru ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi arian, a diolch arbennig i’r Cyng. Bob Derbyshire am ei gefnogaeth.”