Back
Trawsnewid campfa yn CF11 Ffitrwydd


Mae campfa mewn canolfan hamdden yn y ddinas wedi ei hadnewyddu diolch i fuddsoddiad mawr gan Gyngor Caerdydd.

 

Mae'r cyfleusterau ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Trem y Môr, Grangetown wedi eu newid yn gyfleuster newydd, modern ar gyfer y gymuned.

 

Gyda'r offer TechnoGym diweddaraf a dros 85 o orsafoedd ymarfer, llawer â golygfa heb ei hail dros Afon Taf, mae'r ystafell ffitrwydd newydd wedi ei hehangu a'i hail-lansio fel CF11 Ffitrwydd.

 

C:\Users\c080012\Desktop\Chanbel View LC\CV2comp.jpg

 

Roedd y buddsoddiad gwerth £800,000 yn cynnwys gwaith adnewyddu i'r ystafelloedd newid, y toiledau a'r dderbynfa i greu amgylchedd ffres a llachar trwy'r holl rannau sydd wedi eu gwella.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden:"Mae CF11 Ffitrwydd bellach yn gyfleuster gwych sydd cystal ag unrhyw gampfa yn y ddinas, a chanddi amrywiaeth o offer ymarfer cardiofasgwlaidd, pwysau ac ymarfer ymarferol.Mae gan yr holl beiriannau'r dechnoleg ddiweddaraf gan alluogi'r aelodau i dracio a monitro eu gweithgareddau yn y gampfa neu'r tu allan trwy app.

 

"Mae wir yn werth mynd yno, ac rwy'n siŵr y bydd y bobl a oedd yn gyfarwydd â'r gampfa a'r ardaloedd o'i hamgylch o'r blaen yn cael eu synnu'n braf gan y trawsnewidiad."

 

C:\Users\c080012\Desktop\Chanbel View LC\CV3comp.jpg

 

Fel rhan o'r gwelliannau yn Nhrem y Môr cafodd campfa i ferched yn unig ei chyflwyno yn ogystal â dosbarthiadau ymarfer grŵp newydd, gan ychwanegu at yr amserlen a oedd eisoes yn helaeth.Yng nghanol y gymuned leol, mae'r ganolfan hefyd yn cynnwys caeaupêl-droed 3G dan do ac awyr agored ac mae staff cyfeillgar a thîm o hyfforddwyr ffitrwydd cymwys wrth law i arwain aelodau trwy sesiwnsefydlu yn y gampfa neu i dywys unrhyw ymwelwyr o amgylch y lle.

 

I nodi ail-lansio'r gampfa, mae ganCF11 Ffitrwyddgynnig cyflwyniadol arbennig ar gyfer aelodau newydd, sef aelodaeth am £11 am y mis cyntaf ac £20 y mis wedi hynny.Does dim ffi ymaelodi na chytundeb ehangach, ac mae'r aelodaeth yn cynnwys mynediad i'r gampfa ac i'r holl ddosbarthiadau ffitrwydd.

 

Aeth y Cynghorydd Bradbury yn ei flaen i ddweud:"Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddod ag ymarfer corff a hyfforddiant i bobl o bob oedran a gallu ar draws y ddinas.Rwyf wrth fy modd â'r cyfleusterau newydd yn Nhrem y Môr a'r ffaith fod yr aelodaeth newydd yn cynnig gwerth go iawn am arian i bobl y ddinas."

 

 

I gael mwy o wybodaeth amCF11 Ffitrwydd, ewch iwww.cf11fitness.co.uk, ffonio 029 2037 8161 neu ewch i Ganolfan Hamdden Trem y Môr, Jim Driscoll Way, Grangetown, Caerdydd CF11 7HB.