Mae disgwyl i ddwsinau o feicwyr fynd ar daith feics dorfol drwy Gaerdydd i ddathlu ehangu cynllun rhannu beics ‘nextbike' y ddinas.
Mae'r hanner cant o feiciau sydd wedi bod yn rhan o'r arbrawf ers mis Mawrth wedi teithio 4,300 o filltiroedd rhyngddyn nhw - mae hynny'n gyfystyr â theithio ar hyd Taith Taf 78 o weithiau.
A chaiff pawb yn y ddinas roi cynnig ar y beiciau am ddim am 24 awr ddydd Gwener 25 Mai, fel rhan o'r lansiad swyddogol.
Mae ‘nextbike', y cwmni sy'n rhannu beics yn fwy eang na neb arall drwy'r byd, yn lansio 200 o feiciau ychwanegol, mewn 20 lleoliad newydd yng Nghaerdydd. Daw hyn ar ôl eu llwyddiant yn rhannu nifer fechan o feiciau mewn ychydig o leoliadau.
I nodi ehangu'r cynllun, mae disgwyl i ryw drigain o bobl feicio o'r Senedd i Pedal Power ym Mharc Bute ac yn eu plith bydd cynghorwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru, ar daith dorfol drwy'r ddinas. Bydd modd i eraill logi beiciau ‘nextbike' am ddim am bedair awr ar hugain ddydd Gwener.
Bydd nwyddau'r cwmni hefyd ar gael am ddim, ynghyd â chyfle i ymaelodi am flwyddyn am bris is.
Mae'r cynllun yn bosibl oherwydd cefnogaeth Cyngor Caerdydd, a chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Nod y cynllun oedd lleihau tagfeydd, creu mwy o lefydd parcio a chynnig ffordd iachach a mwy cynaliadwy o deithio o amgylch y ddinas.
Bydd 250 o feiciau mewn 25 lleoliad ar gael bellach i bobl Caerdydd eu llogi.
Erbyn diwedd Awst caiff y nifer hwn ei ddyblu, gyda 500 o feiciau ar gael mewn hanner cant o leoliadau ledled y ddinas.
Mae dros 1,000 o bobl eisoes wedi ymaelodi am y flwyddyn a 2,000 ymhellach wedi cofrestru ar yr app, ac yn y misoedd cyntaf yn unig gwnaed 5,330 o deithiau. Roedd defnydd y beiciau ar eu trymaf dros Ŵyl Banc mis Mai, gyda chyfartaledd o bedair taith y beic.
Bydd y beiciau ar gael i'w llogi o sawl lleoliad newydd ledled y ddinas, gan gynnwys y Tyllgoed, Llandaf, Cathays, Adamstown a Sblot.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Cynaliadwy a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild:"Rydyn ni wrth ein bodd o weld ymateb y cyhoedd ers i ni lansio'r beiciau cyntaf yng Nghaerdydd.Mae'n ymddangos bod pobl yn eu defnyddio i fynd o gwmpas i weld ein dinas gwych, ond yn fwy pwysig i deithio bob dydd i'r gwaith neu i siopa.
"Mae'n wych gweld cynllun llogi ‘nextbike' yn ehangu i rannau eraill o Gaerdydd, ac mae'n galonogol gweld faint o'r cyhoedd sy'n ei ddefnyddio hyd yn hyn.Erbyn Awst eleni, mi fydd gennym ni 500 o feiciau mewn 50 o leoliadau gwahanol ledled y ddinas. Rydyn ni o'r farn bod ‘nextbike' yn well na'r hyn sydd ar gael yn Llundain - mae'n rhatach ac mae'r dechnoleg yn well.
"Mae'r Cyngor yn ymrwymo wrth wella ffyrdd cynaliadwy o deithio yn y ddinas, ac mae gwella'r seilwaith a'r hygyrchedd ar gyfer beicwyr a cherddwyr yn rhan bwysig o hyn."
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr ‘nextbike UK', Julian Scriven fod dod â rhagor o feiciau a gorsafoedd beics at y cynllun yn beth cyffrous:
"Mae'n bwysig i ni, ac i'n partneriaid yng Nghyngor Caerdydd, bod y cynllun i'w weld ar draws ardal eang o'r ddinas, nid yn y canol yn unig, er mwyn sicrhau bod yr holl gymuned yn gallu eu defnyddio.
"Mae nifer y beiciau a'u lleoliadau yn allweddol i gynlluniau rhannu beics, a nawr bod 250 o feiciau ar gael, gall pobl fod yn hyderus bod dewis rhannu beic yn ddull dibynadwy ac amgen o deithio.
Dywedodd Julian fod yr ymateb cyntaf i'r cynllun wedi bod yn hynod gadarnhaol.
"Rydyn ni'n llawn gobaith y bydd pobl Caerdydd yn defnyddio'r cynllun i'w lawn botensial nawr bod rhagor o feiciau ar gael. Mae'r ffigyrau cyntaf yr arbrawf gyda 50 o feics yn dangos eu bod wedi teithio 4,300 milltir yn y misoedd cyntaf yn unig.
"Mae rhannu beics yn gweithio orau pan deimla'r gymuned fod y beiciau'n perthyn iddyn nhw - mae hyn i'w weld yn digwydd eisoes yng Nghaerdydd. Rydyn ni wedi cael ymateb gwych i'r cynllun eisoes - ac rydyn ni ar dân i weld sut groeso caiff y don newydd o feics," meddai.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata Prifysgol Caerdydd, Claire Sanders:"Mae'n gynllun arloesol i Gaerdydd, sydd hefyd yn cyd-fynd â'n huchelgais i greu Prifysgol mwy egogyfeillgar a chynaliadwy.
"Gall ein staff a'n myfyrwyr ymaelodi am ddim yn flynyddol, ac felly rydym yn cefnogi project sy'n eu galluogi i deithio o amgylch ein dinas yn hawdd ac yn rhad.
"Fel rhywun sy'n hoffi beicio fy hun, dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig i bwysleisio rhai o fanteision mynd ar feic, fel gwella ffitrwydd corfforol a'r effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Dw i'n bles iawn bod ein cefnogaeth ariannol wedi helpu i sefydlu ‘nextbike' yng Nghaerdydd.Mae'r busnes cyffrous hwn yn cyfrannu at ein hamcanion fel llywodraeth i annog pobl i ddod yn fwy actif a lleihau nifer y ceir sy'n teithio drwy ein prifddinas hyfryd.
"Mae'r syniad syml ond effeithiol sydd gan ‘nextbike' wedi bod yn boblogaidd iawn yng Nghaerdydd.Dw i'n bles iawn bod y cynllun yn ehangu, gyda rhagor of feiciau mewn ardaloedd newydd, a dw i'n dymuno pob llwyddiant i ‘nextbike' yn y dyfodol."
Mae'r dechnoleg ddiweddaraf ar y beiciau ac maent yn fwy diogel gyda'u cloeon ffrynt integredig a thracio GPS, sy'n eu gwneud yn hawdd iawn eu defnyddio.
<0}
Mae ‘nextbike' yn cynnig beics i'w rhannu mewn mwy o wledydd nag unrhyw gwmni arall - mae ganddynt 150 o brojectau ar draws pedwar cyfandir.<0}
Gorsafoedd beics newydd: