Back
Arglwydd Faer newydd Caerdydd yn cyhoeddi ei helusen ddewisol ar gyfer ei blwyddyn yn y swydd

Mae Arglwydd Faer newydd Caerdydd wedi cyhoeddi mai Elusen Ysbyty Plant Noah's Ark fydd yr elusen ddewisol ar gyfer ei blwyddyn yn y swydd.

Mae gan Wir AnrhydeddusArglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Dianne Rees, a gafodd ei hurddo neithiwr, ddyheadau i godi cymaint â phosibl at Apêl Tiny Lives yr elusen.Mae'r apêl yn cefnogi uned newydd-anedigYsbyty Athrofaol Cymru i gynnig gofal penigamp i rai o'r babis a enir cyn eu hamser ac sy'n ddifrifol wael yng Nghymru. 

Dywedodd yr Arglwydd Faer:"Mae plant yn bwysig iawn i'n dyfodol ni a dyfodol Caerdydd, felly mae'n hanfodol eu bod nhw'n iach ac yn cael gofal da.Cafodd ysbyty Plant Noah's Ark argraff fawr arna i; mae'r staff yn ardderchog ac maen nhw'n canolbwyntio ar anghenion y plant."

A hithau'n fam i bedwar ac yn fam-gu i wyth, trafododd y Cyng. Rees ei phrofiadau ei hun o ddeall pam y mae gofal iechyd o safon yn bwysig iawn i blant."Cafodd fy merch Meningitis B pan oedd yn 19 mis oed, a ganwyd fy ngŵyr ddeufis cyn ei amser, felly rwy'n deall pam y mae mor bwysig bod ysbytai'n gyfoes er mwyn gallu cynnig gofal meddygol ardderchog i'r rhai y mae arnyn nhw ei angen fwyaf.

"Meddyliais yn ofalus pa elusen i'w dewis, a theimlais ei bod hi'n amser rhoi ffocws ar blant.Gobeithiaf godi cymaint â phosibl at yr achos haeddiannol hwn a fydd yn fuddiol i genedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Cyfarwyddwr Elusen Noah's Ark, Suzanne Mainwaring:"Rydyn ni'n falch iawn bod yr Arglwydd Faer newydd wedi'n dewis ni fel ei helusen ddewisol. Fel llawer o'n cefnogwyr, mae gan y Cynghorydd Rees ei phrofiad ei hun o fod â phlentyn yn yr ysbyty, ac mae'n llawn ymwybodol o ba mor heriol y gall hynny fod.Mae oddeutu 65% o gleifion ifanc yr ysbyty yn dod o Gaerdydd a'r Fro, felly mae hyn wirioneddol yn gyfle i gefnogi plant a theuluoedd ein cymuned.

"Eleni, bydd yr elusen yn ddeunaw oed a dros y blynyddoedd mae cefnogwyr ledled Caerdydd wedi'n helpu ni i godi arian ar gyfer adeiladau, offer, cyfleusterau, gwasanaethau a gweithgareddau.Ond wrth wraidd hynny oll mae'r plant a'r teuluoedd y mae eu bywydau wedi gwella o ganlyniad. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at weithio ochr yn ochr â'r Arglwydd Faer yn y flwyddyn i ddod i barhau i wneud ein gorau glas drostyn nhw."

Bob blwyddyn, mae 73,000 o blant yn derbyn triniaeth arbenigol sy'n achub bywydau yn Ysbyty Plant Noah's Ark.Ar ôl codi dros £20 miliwn i adeiladu a rhoi offer yn yr ysbyty, mae Elusen Noah's Ark yn dal i weithio ochr yn ochr â'r GIG, yn darparu cyllid ar gyfer yr offer a'r cyfleusterau mwyaf newydd.Mae hefyd yn ariannu gwasanaethau cymorth i deuluoedd megis y tîm chwarae arbenigol, sy'n helpu plant i fyw plentyndod er gwaethaf eu hanawsterau.

Yn rhan o'u hymrwymiad parhaus i sicrhau'r gofal arbenigol gorau posibl i blant, yn ddiweddar lansiodd yr elusen yr ApêlTiny Livesgyda'r nod o godi £1 miliwn ar gyfer yr uned newydd-anedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru.Bydd yr arian a godir gan yr Arglwydd Faer yn ystod yr ymgyrch yn cael ei wario ar offer achub bywydau arbenigol fel peiriannau anadlu, sy'n helpu babis cynamserol neu sy'n ddifrifol wael i anadlu.

Mae'n amser cyffrous i Elusen Noah's Ark, wrth iddi gychwyn ei deunawfed flwyddyn ym mis Mai.Dros y flwyddyn nesaf mae'r Arglwydd Faer wedi addo helpu Elusen Noah's Ark i godi ei phroffil yn ogystal â chodi arian drwy gynnal digwyddiadau arbennig a mynychu digwyddiadau pwysig ar galendr yr elusen.

I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Tiny Lives Noah's Ark ewch i www.noahsarkcharity.org/tinylives

Byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn rhoddion. 
 https://www.justgiving.com/campaigns/charity/chfw/lordmayorofcardiff
 
Anfonwch sieciau, yn daladwy i ‘Elusen Arglwydd Faer Cyngor Caerdydd' i:

Swyddfa Brotocol
Y Plasty
Richmond Road
CaerdyddCF24 3UN.

Os ydych am drefnu digwyddiad codi arian i gefnogi Elusen yr Arglwydd Faer, e-bostiwch:SwyddfaBrotocol@caerdydd.gov.ukneu ffoniwch029 2087 1543.