Bydd gwasanaethau ychwanegol gan y Cyngor a darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer Ras Fôr Volvo a fydd yng Nghaerdydd rhwng 27 Mai a 10 Mehefin.
Am y tro cyntaf erioed, bydd un o gamau aros Ras Fôr VOLVO, ras hwylio o amgylch y byd, yng Nghaerdydd.
Aiff y ras, a gychwynnodd o Alicante fis Hydref diwethaf yn mynd â'r teithwyr i 12 dinas trwy'r byd ac ar hyd 46,000 milltir fôr dros gyfnod o wyth mis.
Bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ychwanegol ar y dyddiau prysuraf yn ystod cam Caerdydd er mwyn i'r cyhoedd allu mynd a mwynhau pentref VOLVO. Y dyddiau prysuraf fydd dydd Sadwrn 27 Mai, dydd Llun 28 Mai, dydd Sadwrn 2 Mehefin, dydd Sul 3 Mehefin, dydd Gwener 8 Mehefin, dydd Sadwrn 9 Mehefin a dydd Sul 10 Mehefin.
Bydd cyfyngiadau yn ystod yr amseroedd prysuraf ar ffyrdd Rhodfa'r Harbwr/Cei Britannia a Porth Teigr Way.
Gwasanaethau Bws
Ar gyfer Ras Fôr Volvo, rhoddir bws trydanol newydd, a weithredir gan Fws Caerdydd, ar brawf yn cynnal gwasanaeth rhif 6 Bws y Bae, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, VOLVO a phartneriaid newydd.
Bydd y gwasanaeth hwn yn aros yn Loc y Rhath lle'r oedd yr hen Arddangosfa Dr Who. Mae amserlen y gwasanaeth hwn ar gael trwy ddilyn y ddolen hon:https://www.cardiffbus.com
Pan fo pentref VOLVO ar agor, bydd Bws Caerdydd yn cynnal gwasanaethau bws estynedig tan 10pm. Bydd y gwasanaethau ychwanegol yn gadael ar yr awr a bob hanner awr tan 10pm. Hoffai Bws Caerdydd atgoffa cwsmeriaid bod tocynnau teulu hefyd ar gael:https://www.cardiffbus.com/family-travel
Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad
Ddydd Sadwrn 27 Mai, dydd Llun 28 Mai, dydd Sadwrn 2 Mehefin, dydd Sul 3 Mehefin, dydd Sadwrn 9 Mehefin a dydd Sadwrn 10 Mehefin, bydd maes Parcio a Theithio'r digwyddiad ynNhŷ Wilcox(CF11 0BA).
Gallwch gyrraedd y cyfleuster Parcio a Theithio wrth adael yr M4 yng nghyffordd 33, parhau ar hyd yr A4232 (Ffordd Gyswllt) a dilyn arwyddion Dunleavy Drive.
Ddydd Gwener 8 Mehefin, bydd cyfleuster Parcio a Theithio'r digwyddiad ymMhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd(CF11 0JS).
Gallwch gyrraedd y Parcio a Theithio o gyffordd 33 yr M4 a pharhau ar hyd yr A4232 (Ffordd Gyswllt) ar yr A4005 tua'r Barri a throi i'r chwith i International Drive ger archfarchnad Morrison.
Porth Teigr Way fydd y man gollwng, sydd drws nesaf i fynediad pentref VOLVO.
£5 y car yw'r pris a bydd yn rhaid talu mewn arian parod ar y dydd yn unig.
Bydd y maes parcio yn agor am 9:00am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9:30am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 10:30pm a bydd y maes parcio'n cau am 11pm.
Trenau
Great Western Railway- Ddydd Sul 27 Mai a dydd Llun 28 Mai, caiff trywydd y gwasanaethau pellteroedd hir o Lundain eu gwyro rhwngReadinga Bryste oherwydd gwaith peirianyddol yn ardal Swindon.Bydd bysus yn lle'r gwasanaeth trên ar gyfer pawb sy'n teithio o Swindon.
Cynghorir bod teithwyr yn cynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw arwww.nationalrail.co.ukneu drwy ffonio Travel Line Cymru ar 0800 464 0000.
MaeTrenau Arriva Cymruyn cynghori eu cwsmeriaid y bydd cerbydau ychwanegol pan fo hynny'n bosibl ar y dyddiau prysuraf.Cynghorir yn daer fod y rhai a fydd yn teithio gyda gwasanaethau Trenau Arriva Cymru yn prynu tocyn trên cyn mynd ar fwrdd y trên oherwydd y bydd swyddogion diogelu refeniw yn gweithredu yng Ngorsaf Drenau Bae Caerdydd.
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau Trenau Arriva Cymru, ewch i:https://www.arrivatrainswales.co.uk/DigwyddiadauArbenning/?langtype=1106
Allwch chi feicio neu gerdded?
Anogir preswylwyr sy'n byw yn agos at Fae Caerdydd i gerdded neu feicio.Ar y dyddiau prysuraf, mae disgwyl i bentref y ras fod yn brysur dros ben, a bydd yn hawdd cyrraedd yno o Fae Caerdydd neu dros Forglawdd Bae Caerdydd.
Pan fo torfeydd mawr yn y pentref chwaraeon, gofynnir i feicwyr ddod oddi ar eu beics a cherdded trwy'r torfeydd.
Parcio i Bobl Anabl
Bydd y mannau parcio sydd ger yr Eglwys Norwyaidd yn fannau parcio i bobl anabl yn ystod digwyddiad Ras Fôr VOLVO.
Parcio ceir ym Mae Caerdydd
Anogir pawb a fydd yn teithio gyda char ar y dyddiau prysuraf i ddefnyddio'r cyfleuster Parcio a Theithio yn Nhŷ Wilcox. Bydd meysydd parcio ym Mae Caerdydd ar y stryd:https://bit.ly/2kjHhjn ym maes parcio aml-lawr y Pierhead neu yng nghanolfan Red Dragon ar Hemmingway Road.