Back
Gwelliannau i Leckwith Road

Bydd gwaith i wella wyneb ffordd Leckwith Road yn cychwyn ddydd Llun 21 Mai gyda lôn a ffyrdd yn cau gyda'r nos tan 5.30am ddydd Sadwrn 16 Mai.

Ar ddydd Llun 21 Mai, o 8pm tan 5.30am y bore canlynol, bydd cyfyngiadau lôn yn cael eu rhoi ar y gylchfan sy'n arwain at yr A4232 ond caiff mynediad ei gynnal ar gyfer pob modurwr.

Ar ddydd Mawrth 22 Mai, o 8pm tan 5.30am y bore canlynol, bydd Leckwith Road yn cael ei gau yn y ddau gyfeiriad o'r fynedfa i'r parc manwerthu hyd at gyffordd Broad Street / Sloper Road.Caiff mynediad ei gynnal ar gyfer preswylwyr Lawrenny Avenue.

O ddydd Mercher, 23 Mai 23tan ddydd Gwener, 25 Mai 25, o 8pm tan 5.30am y bore canlynol, bydd Leckwith Road yn cael ei gau i'r ddau gyfeiriad o gyffordd Broad Street / Sloper Road hyd at y gyffordd ag Atlas Road a Wellington Street.Caiff mynediad ei gynnal ar gyfer preswylwyr Leckwith Place.