Back
Llwyddiant Diwrnod Dim Ceir

Bu'r Diwrnod Dim Ceir ddyd Sul yn llwyddiant ysgubol, â thua 10,000 o bobl yn troedio strydoedd Caerdydd a mwynhau digwyddiad Let's Ride HSBC UK a'r adloniant stryd arall.

Cododd niferoedd y bobl yng nghanol y ddinas gan 28% o'u cymharu â'r un diwrnod y llynedd, sef 125,173 person yng nghanol y ddinas ddyd Sul a 90,005 ddydd Sul 14 Mai 2017. Dywedodd trefnwyr y digwyddiad y bu 5,000 o bobl yn rhan o ddigwyddiad Let's Ride HSBC UK ac y cymerodd 5,000 arall ran yn yr adloniant.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild: "Dan yr heulwen, roedd Caerdydd ar ei gorau ac roedd nifer y cyhoedd a ddaeth yn galonogol iawn.

"Roedd y strydoedd yn hynod heddychlon ac mae'r adborth cadarnhaol a dderbyniais i ar y diwrnod a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol yn dangos beth gall y ddinas ei wneud pan weithiwn â'n partneriaid i drefnu digwyddiad o'r maint hwn. Roedd hi'n wych gweld cymaint o deuluoedd yn mwynhau yn strydoedd Caerdydd heb draffig ar eu hyd.

"Rydyn ni hefyd yn falch y bu modd croesawu Gorymdaith Dinas Caerdydd i ddathlu dyrchafiad y tîm pêl-droed i'r Uwch-gynghrair. Yn ogystal i'r 10,000 a ddaeth ar gyfer Diwrnod Dim Ceir, daeth miloedd o gefnogwyr Dinas Caerdydd i gefnogi'r adar gleision yng Nghastell Caerdydd ac roedd yr awyrgylch yn wefreiddiol a'r ddau ddigwyddiad yn asio i'r dim."

Yn ogystal â chreu awyrgylch fel un carnifal i'r cyhoedd gael ei fwynhau, bwriad arall y Diwrnod Dim Ceir oedd monitro ansawdd yr awyr a llif y traffig yng nghanol y ddinas.

Gan weithio ag Air Quality UK, gosodwyd mesuryddion ansawdd awyr trwy'r ddinas i gyfri lefelau'r Nitrogen Deuocsid (N02). O gymharu'r data hwn â data a gasglwyd ddydd Sul 6 Mai, bu gostyngiad sylweddol. Mae'r cofnodion yn dangos y cwympodd lefelau'r N02 gan dros 64% yn Heol y Porth; 42% yn Heol y Dug a 7% yn Stephenson Court ger Heol Casnewydd.

Gyda chynnydd yn nifer yr ymwelwyr i ganol y ddinas, roedd y Cyngor yn awyddus i fonitro llif y traffig trwy ffyrdd penodol a oedd yn dal i fod ar agor ar gyrion ardal canol y ddinas a oedd ar gau. Dengys y canlyniadau y bu gostyngiad gan 25% ar Heol Casnewydd; 16% yn y Ffordd Gyswllt Ganolog; 22% yn Heol y Gadeirlan; 11% yn Stryd Bute; 8% yn Clare Road; 30% yn Moira Terrace; 8% yn Fitzalan Place a 45% yn Heol y Gogledd.

Meddai'r Cyng. Wild: "Cerdded a beicio yw'r enghreifftiau gorau o drafnidiaeth gynaliadwy, ac mae'r Cyngor yn ymrwymo i wella'r seilwaith er mwyn ei gwneud yn ddiogelach a haws i bobl gerdded a beicio yn ac o amgylch y ddinas."

Mae'r Cyngor wedi lansio papur gwyrdd ar Aer Glân yn y ddinas ac yn annog preswylwyr i gymryd rhan yn y sgwrs am y syniadau mawr a allai lywio dyfodol system drafnidiaeth Caerdydd a golwg a naws y ddinas yn y dyfodol.

Mae'r Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân ar gael i'w weld ymahttps://www.caerdydd.gov.uk/papurgwyrddtrafnidiaetha gofynnwyd cyfres o gwestiynau ym mhob adran er mwyn derbyn adborth gan breswylwyr ar y cynigion a'r syniadau cyn cau'r ymgynghoriad ar 1 Gorffennaf.

 Sut mae cymryd rhan - ymunwch yn y sgwrs drwy:

2) E-bostio sylwadau yn uniongyrchol atom yn:  ymgynghori@caerdydd.gov.uk

3) Ymateb yn ysgrifenedig i: Canolfan Ymchwil Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW

4) Cysylltu â ni ar Facebook / Twitter: @cyngorcaerdydd