Back
Parêd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd

 

Mae'r Cyngor yn falch o gadarnhau y bydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn dathlu cyrraedd Uwchgynghrair Lloegr yng nghanol y ddinas ddydd Sul 13 Mai.

Bydd yr Adar Gleision yn gadael Stadiwm Dinas Caerdydd ar fws to agored am 3.00pm, gan deithio i'r gogledd ar hyd Leckwith Road. Wedyn byddant yn troi i Heol Ddwyreiniol y Bont-faen ac yn teithio'r holl ffordd ar hyd yr heol honno, dros Bont Treganna ac ar hyd Stryd y Castell.

Disgwylir i'r tîm gyrraedd y Castell rhwng 4.30pm a 5.00pm lle bydd Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer yn cwrdd â Neil Warnock. Bydd y chwaraewyr wedyn yn camu ar lwyfan awyr agored i gyfarch y cefnogwyr.

Mae Caerdydd yn cynnal Diwrnod Dim Ceir ddydd Sul, sy'n cynnwys taith DEWCH I FEICIO HSBC UK. Mae'r ddau ddigwyddiad yn digwydd o amgylch y castell, a bydd llawer o ffyrdd ar gau drwy'r dydd o 5.00am i 8.00pm.

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn cefnogi Diwrnod Dim Ceir y Cyngor ac wedi gofyn i gefnogwyr deithio i mewn i'r ddinas ar fws, trên, beic neu ar droed i fwynhau'r digwyddiad, sy'n rhedeg o 10.00am i 3.00pm.

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi diolch i'r Cyngor am wneud popeth yn ei allu i sicrhau y gall y Parêd ddigwydd yr un dydd â'r Diwrnod Dim Ceir.

Bydd yr adloniant sydd wedi'i drefnu ar gyfer y Diwrnod Dim Ceir yn dod i ben cyn bod y parêd yn cyrraedd y castell, ond mae croeso i deuluoedd ddod draw a mwynhau'r sbort cyn i'r bws to agored gyrraedd canol y ddinas - gallwch ddarllen mwy am y Diwrnod Dim Ceir, yr adloniant a'r ffyrdd fydd ar gau yma -https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/teithio/digwyddiad-diwrnod-dim-ceir/Pages/default.aspx 

Pan fydd y tîm yn cyrraedd y castell, bydd Neil Warnock a'r chwaraewyr yn camu ar lwyfan awyr agored i gyfarch y cefnogwyr mewn awyrgylch o hwyl i'r teulu cyfan. Gwahoddir cefnogwyr i ymuno â'r tîm ar gyfer y dathlu, yn y castell neu ar unrhyw bwynt ar hyd llwybr y Parêd.

Dim ond hyn a hyn o le sydd o flaen y castell, a bydd diogelwch yn hollbwysig ar y dydd. Mae cefnogwyr wedi cael gwybod y gallai mynediad gael ei gyfyngu i flaen y Castell am resymau iechyd a diogelwch.