Back
Hawlio’r Strydoedd yn ôl ar Ddiwrnod Dim Ceir

Mae croeso i bawb gymryd rhan yn nigwyddiad Diwrnod Dim Ceir mwyaf erioed Caerdydd ar 13 Mai.

Bydd cynllun cau ffyrdd llawn wedi ei roi ar waith ar gyfer y digwyddiad hwn, gyda mwy o ffyrdd wedi cau i geir nag ar gyfer digwyddiad yn Stadiwm y Principality. Sail y digwyddiad yw clirio canol y ddinas o draffig, fel y gall pawb fwynhau y gweithgareddau am ddim fydd ar gael.

Mae'r adloniant wedi ei gadarnhau bellach a bydd Caerdydd yn paratoi i glywed cerddoriaeth fyw, perfformwyr ac adloniant, wal ddringo, beicwyr triciau BMX, ramp sglefrfyrddio; net criced; nifer o arddangosiadau yn ogystal â llawer iawn mwy.

Bydd yr holl adloniant yma yn agos i Beicio'r Ddinas HSBC, taith feics deuluol dan nawdd Seiclo Prydain a fydd yn cael ei gynnal ar hyd ffyrdd caeedig canol y ddinas. Gall unrhyw un gymryd rhan am ddim - https://www.letsride.co.uk/events/cardiff .

Mae Bws Caerdydd a New Adventure Travel yn cynnig prisiau teithio is ar y diwrnod. Bydd Bws Caerdydd yn cynnig cyfraddau plant ar bob tocyn Teithio Drwy'r Dydd a bydd New Adventure Travel yn cynnig cyfraddau plant ar bob tocyn. Bydd Parcio a Theithio ym Mhentwyn ar agor o 9.30am hyd 5.30pm a dim ond £2 y car fydd y gost.

Bydd gan nextbike - gweithredwr llogi beics adnabyddus ledled y byd sydd wedi ymsefydlu'n ddiweddar yng Nghaerdydd - stondin yn y digwyddiad. Bydd y 100 person cyntaf sydd yn cofrestru ar y cynllun yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn am ddim sydd fel arfer yn costio £60. Bydd unrhyw un arall sydd yn cofrestru ar y cynllun yn derbyn tri mis o brawf am ddim.

Yn ogystal â chynnig adloniant amrywiol, y syniad tu ôl i'r cynllun yw monitro gwelliannau yn ansawdd yr awyr. Mae aer glân wedi ei osod yn flaenoriaeth gan y Cyngor ac mae papur ymgynghori wedi ei lansio yn ddiweddar i gael barn y cyhoedd ar ddyfodol trafnidiaeth yn y ddinas.

Fel rhan o'r agenda i wella ansawdd yr aer yng Nghaerdydd, bydd offer monitro ansawdd aer yn cael ei osod yng nghanol y ddinas ar 13 Mai. Gyda'r offer wedi ei ddarparu gan Air Monitors UK, bydd ansawdd yr aer ar Stryd y Castell a Heol y Porth yn cael ei fesur a'r data a gaiff ei gasglu yn cael ei gymharu â lefelau llygryddion gaiff eu cofnodi ar Sul arferol.

Yr Aelod cabinet dros gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth Caro Wild sydd y tu ôl i'r cynllun ac mae'n awyddus i gymaint o bobl â phosib fod yn rhan o'r digwyddiad.

"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i ddod i Gaerdydd a mwynhau'r ddinas heb geir. Gyda Beicio'r Ddinas HSBC yn digwydd, adloniant a pherfformiadau byw, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.

 "Bydd amrywiaeth o gerddoriaeth fyw ar gael, gyda band pres, côr cymunedol, cerddoriaeth jazz, band teyrnged yn ogystal ag ystod o adloniant a pherfformwyr gan gynnwys ‘beicio triciau beics Stilt', ‘Anrhefn ar Sgwteri; beicio'n unig', Trin Gwallt ar sglefrolwyr' yn ogystal â ‘hwyl di-gar o Oes Fictoria'. Mae'n adloniant teuluol am ddim ar ei orau ac mae croeso i bawb."