Mae Arglwydd Faer Caerdydd wedi talu teyrnged i'w dîm gwych a lwyddodd i gwblhau her Tri Chopa Cymru y penwythnos diwethaf.
Hwn oedd her codi arian olaf y Cyng. Bob Derbyshire cyn iddo gwblhau ei dymor fel Arglwydd Faer a throsglwyddo'r gadwyn seremonïol i'w olynydd yn ddiweddarach y mis hwn. Penderfynodd felly nodi diwedd ei gyfnod fel prif ddinesydd Caerdydd ar uchafbwynt yng ngwir ystyr y gair!
Rhoddodd her i'w hun o ddringo'r Wyddfa, Cadair Idris a Phen-y-Fan i godi arian i'w ddewis elusennau -Buglife Cymru ac RSPB Cymru. Gydag ef ar y daith oedd ei gyd-gynghorwyr yng Nghaerdydd, gan gynnwys yr Arweinydd, y Cyng. Huw Thomas, y Cyng. Sarah Merry, y Cyng. Peter Wong a'r Cyng. Chris Weaver, ynghyd â chynrychiolwyr o'r ddwy elusen.
0}
Y nod oedd codi £1,000, ond mae'r Arglwydd Faer eisoes wedi curo'r targed gan gasglu £1,400, gyda chyfraniadau eto i ddod.
Dywedodd y Cyng. Bob Derbyshire:"Roedd y tîm yn wych.Fe wnaethon nhw lwyddo i wneud y tri copa. Yn anffodus, wnes i ddim eu cwblhau nhw. Fe roddais i mi fy ergyd gorau ond ar ôl Yr Wyddfa a Cadair Idris, roeddwn i'n blino lan. Yn ffodus, roedd y tîm yn gallu parhau a dringoPen y Fan.
"Rwy eisiau dweud diolch i bawb yn y tîm - gallwn i ddim fod wedi gwneud hebddyn nhw, ac mae hynny'n cynnwys ein gyrrwr Steve Ling, rheolwr cynorthwyol Canolfan Hamdden Trem y Môr, a oedd yn wych yn trefnu'r ‘logisteg' a'n cludo o gwmpas.
"Cawsom gefnogaeth anferth a dwi'n diolch i bawb a gyfrannodd. Daeth Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cyng. Dyfrig L. Siencyn a'r cadeirydd Annwen Daniels i ymuno â ni ar Gadair Idris. Roeddwn yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth a'u cyfraniad yn fawr.
"Roedd yn ddiwrnod anodd iawn. Dechreuon ni gerdded o Lanberis am 6am - roedd yr haul newydd godi ac roedd hi'n brydferth iawn. Roeddem yn lwcus iawn o ran y tywydd.
"Ond Cadair Idris oedd yr her anoddaf - dechreuodd hi lawio a bwrw eira hanner ffordd i fyny, ac roedd hi'n anodd iawn wrth ddod yn ôl i lawr. Roedd hi'n lladdfa yn ôl un o'r lleill!
"Erbyn i ni gyrraedd Pen-y-Fan, roedd hi'n hwyr a'r tîm yn dringo yn y tywyllwch, gan ddod yn ôl i lawr toc ar ôl hanner nos.
"Roedd yn heriol iawn, a dwi ddim yn meddwl y gwnaf i hyn eto, ond bydd yn atgof y trysoraf i am byth. Rwy'n gobeithio na fydd neb yn gofyn am eu harian yn ôl gan fod aelodau'r RSPB a BugLife wedi cwblhau'r tri dringo. Efallai, pe bawn i wedi bod yn 20 oed yn iau gyda dau gipyn da, byddwn wedi ei chwblhau hefyd.
"Diolch i bawb a gefnogodd y tîm."
Dydi hi ddim yn rhy hwyr i gefnogi camp yrArglwydd Faer.I gyfrannu, ewch i
www.justgiving.com/fundraising/welsh3peaksforwildlife
.