Back
Lansio Gwasanaeth Cyflogadwyedd Ledled y Ddinas: Help i bobl sy’n chwilio am swyddi wrth i effaith y Credyd Gynhwysol dd


Mae gwasanaeth newydd fydd ar waith ar hyd a lled dinas Caerdydd i roi cyngor ar gyflogaeth, a gwybodaeth am swyddi, wedi ei lansio.

 

Mae'r gwasanaeth newydd yn rhan o gynlluniau'r Cyngor i helpu pobl y mae Credyd Cynhwysol yn effeithio arnynt, yn sgil rhoi'r drefn newydd ar waith ym mis Chwefror.

 

Mae'r newidiadau'n golygu na all cartrefi o bobl oed gwaith hawlio o'r newydd am fudd-daliadau megis y Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant, Budd-dal Tai a'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

 

Mae'r Cyngor wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n chwilio am gyngor a chymorth i mewn i waith ers Chwefror ac mae'n awyddus i helpu pobl i baratoi a dychwelyd i waith drwy ddarparu clybiau swyddi a sesiynau Credyd Cynhwysol.

 

Ers mis Chwefror, mae timau wedi helpu dros 250 o gwsmeriaid gyda'u ceisiadau ac mae dros 650 o ymweliadau wedi bod â chlybiau swyddi gan bobl sy'n hawlio'r Credyd Cynhwysol. Mae nifer y bobl sy'n derbyn cymorth cyllido personol wedi cynyddu'n sylweddol dros yr wythnosau diwethaf hefyd.

 

Bydd y gwasanaeth Cyflogadwyedd newydd yn parhau â gwaith llwyddiannus presennol Gwasanaeth i Mewn i Waith presennol y Cyngor a bydd yn cynnig mwy o help i bobl sy'n chwilio am swyddi.Bydd y gwasanaeth yn dod â nifer o ffrydiau cyllido at ei gilydd mewn ffordd gydlynol. Bydd y gwasanaeth ar gael i bawb yn y ddinas, waeth ble maen nhw'n byw a boed mewn swydd ai peidio. 

 

Bydd cymorth ar gael mewn sawl ffordd, yn cynnwys helpu pobl i chwilio am waith neu ddatblygu sgiliau'r rhai sydd eisoes mewn swydd a chyngor i bobl sydd am sefydlu eu busnesau eu hunain. Ymateb i anghenion y cwsmer yw'r nod.Bydd cyllid ar gael ar gyfer hyfforddiant, gofal plant, teithio a chostau eraill.

 

Bydd yn bosibl cael mynediad at y gwasanaeth drwy glybiau swyddi mewn dros 30 o leoliadau ledled y ddinas, drwy linell ffôn gymorth, drwy'r wefan, gwesgyrsiau ac e-bost. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne,"Rydym yn disgwyl cynnydd mawr yn y galw am ein cyngor a'n gwasanaethau i mewn i waith yn sgil cyflwyno'r Credyd Cynhwysol ac mae staff ein hybiau wedi bod yn estyn cymorth i rai sydd angen help.

 

"mae cymorth ar gael yn ddigidol i bobl sydd nawr yn gorfod gwneud cais a chynnal eu cyfrifon ar-lein, ac rydym wedi gosod cyfrifiaduron ychwanegol yn ein llyfrgelloedd a hybiau.

 

"Bydd ein gwasanaeth cyflogadwyedd bellach yn rhoi profiad haws o lawer i bobl sy'n chwilio am waith neu sydd angen cymorth i baratoi ar gyfer dechrau gweithio, boed nhw'n hawlio'r Credyd Cymhwysol ai peidio.

 

"Mae dryswch wedi codi yn y gorffennol, gyda rhai cynlluniau ar gael mewn rhannau o'r ddinas ond heb fod ar gael mewn rhannau eraill, a rhai pobl yn dioddef am nad oedden nhw'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, megis byw yn yr ardal iawn neu fod o oed penodol.

 

"Bydd y porth unigol i'n gwasanaeth newydd yn dileu unrhyw ddryswch a bydd yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth neu'r project sy'n ateb eu gofynion.Mae gormod o rwystrau yn wynebu gormod o bobl wrth iddyn chwilio am swydd, felly rydym yn canolbwyntio ar ddileu'r rhwystrau hynny a helpu pobl o fynd i swyddi da a gyrfaoedd da."

 

Bydd ymglymu gyda chyflogwyr mewn ffordd effeithiol hefyd yn rhan o'r gwasanaeth newydd, er mwyn sicrhau ein bod yn deall anghenion cyflogwyr, yn lleol ac yn genedlaethol, a phobl felly'n gallu paratoi at gyfleoedd gwaith go iawn.Bydd tîm y gwasanaeth cyflogadwyedd yn cynnwys swyddog cyflogi a lleoli fydd yn gweithio'n agos gyda thîm Datblygu Economaidd y Cyngor ac adnabod ymgeiswyr addas sydd â'r sgiliau angenrheidiol ac sydd wedi eu hyfforddi ar gyfer swyddi gwag yn y ddinas.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y gwasanaeth newydd, imewniwaithcaerdydd.co.uk, ffoniwch 029 2087 1071 neu e-bostiwchcyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk

Dilynwch y gwasanaeth ar Twitter @intoworkcardiff neu Facebook - facebook.com/intoworkcardiff