Back
Cae Chwarae 3G i ddwyrain y ddinas


Mae clybiau chwaraeon dwyrain y ddinas yn gweld ffrwyth buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau lleol yn sgil lansio cae pêl-droed bob tywydd, cyfoes yn Llanrhymni heddiw.

 

Mae cae chwarae 3G wedi ei osod yng Nghanolfan Better Hamdden y Dwyrain a bydd yn hwb sylweddol i dimau a grwpiau lleol gan roi lle iddyn nhw chwarae neu hyfforddi waeth beth fo'r tywydd.

 

Aelodau ward lleol oedd yn gyfrifol am adnabod yr angen, ac mae wedi ei ddarparu drwy Gynllun Adnewyddu Cymdogaethau'r Cyngor mewn partneriaeth â Greenwich Leisure Limited (GLL), y fenter gymdeithasol elusennol sy'n gweithredu canolfannau hamdden y ddinas. 

 

Mae tair colofn oleuo hefyd wedi eu gosod ar hyd y llwybr rhwng y cae chwarae a Heol Casnewydd, er mwyn sicrhau y gall pobl gyrraedd yn ddiogel gyda'r nos ac yn ystod misoedd tywyll y gaeaf, pan fo'r galw am gyfleusterau hyfforddi ar ei uchaf. Mae biniau a meinciau newydd hefyd wedi cael eu gosod.

 

Canolfan Hamdden y Dwyrain Better fydd yn rheoli'r cae chwarae, a gall clybiau lleol ddefnyddio'r cyfleusterau am ryw wyth awr yr wythnos am ddim. Bydd tâl ar gyfer ei ddefnyddio ar adegau eraill.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne,  "Mae'r rhaglen Cynlluniau Adfywio Cymdogaethau yn darparu projectau adfywio ar hyd a lled y ddinas, yn barciau newydd, gwelliannau i strydoedd a chyfleusterau cymunedol.

 

"Roedd hon yn ardal nad oedd ar ei gorau, gynt, a doedd dim llawer o ddefnydd arni, felly rwyf wrth fy modd ein bod wedi creu cyfleuster mor wych yno, ac un fydd o fantais fawr i'r bobl leol."

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: "Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda GLL i ddatblygu'r maes 3G hwn dan olau, a bydd yn cyfoethogi'r ardal yn fawr ac yn ategu'r cyfleusterau sydd eisoes yno.

 

"Mewn ardaloedd lle mae meysydd chwarae 3G eisoes yn weithredol, ardaloedd fel Pentwyn, Grangetown a Threlái/Caerau, mae ysgolion a chlybiau lleol wedi rhoi croeso mawr iddyn nhw, ac maen nhw wedi helpu pobl i ddatblygu sgiliau ac wedi meithrin talentau ifanc. Rydyn ni'n hyderus y bydd y ddarpariaeth newydd hon yn rhoi hwb i lawer gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn yr ardal."

 

Dywedodd Tony Smith Rheolwr Cyffredinol Canolfan Better Dwyrain Caerdydd: "Fel menter gymunedol, rydym wedi ymrwymo i annog a galluogi pawb i ddod yn fwy corfforol actif a mwynhau'r manteision o gael cyfleusterau o'r radd flaenaf yn ein dinas fel yr un yma.Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon i roi'r cyfleoedd gorau posibl i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon.

 

"Bydd y cae newydd hwn gobeithio yn annog pobl newydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, ond hefyd yn helpu pobl sydd wedi chwarae pêl-droed ond wedi rhoi'r gorau ynddi i ail-gydio ynddi. Mae'r sesiynau'n dechrau llenwi ac rydym yn disgwyl i'r rhain fod yn llawn erbyn yr Hydref." 

 

Matthew Woodward, adeiladwr o Lanrhymni, oedd y person cyntaf i archebu'r cae ar gyfer ‘Woody's FC' ac maen nhw wedi bod yn defnyddio'r cae yn rheolaidd.

 

Dywedodd Matthew: "Rydyn ni wrth ein boddau gyda'r cae ac yn meddwl ei fod yn ychwanegiad rhagorol i'r cyfleusterau chwaraeon yn nwyrain y ddinas. Bydd ein tîm yn cwrdd yno'n rheolaidd i chwarae pêl-droed."

 

Dylid anfon unrhyw ymholiadau archebu i eastern@gll.org neu ffoniwch 029 2240 1191.I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Better Caerdydd Canolfannau Hamdden a Champfeydd yng Nghaerdydd | Better