Back
Carcharu Twyll Fasnachwr

MAE'R Twyll Fasnachwr James Bunce, 26, o Llanhydrock Close, Llaneirwg wedi'i garcharu am 12 mis yn Llys y Goron Caerdydd.

Clywodd y llys fod Mr Bunce yn y diwydiant adeiladu a'i fod, wrth weithio gydag eraill, wedi galw'n ddigroeso gyda dau breswylydd oedrannus yng Nghaerdydd.

Ym mis Rhagfyr 2016, galwodd yn ddi-wahoddiad phreswylydd oedrannus o Blasnewydd, a gytunodd i waith ar flaen ei dŷ am gost o £300. Ar ôl dod i gytundeb, cynyddodd y gost i £5,000 ar ôl i Bunce honni fod angen gwneud gwaith ychwanegol i ailadeiladu ei wal.

Pan sylwodd y preswylydd o Blasnewydd ei fod yn cael ei dwyllo, dywedodd wrth yr adeiladwyr nad oedd eisiau iddynt wneud y gwaith, a bod ‘tactegau bygythiol a gorchmynnol' wedi cael eu defnyddio i gael yr arian.

Ar ôl talu £1,000 mewn arian parod, aeth y preswylydd i'r banc i geisio cael £2,000 arall, ond ffoniodd y banc yr heddlu. Dechreuodd Safonau Masnach ymchwilio, a dangosodd arolwg annibynnol mai gwir werth y gwaith a gafodd ei wneud oedd £440.

Cyn hyn, yn 2016, rhwng mis Awst a mis Hydref, cafodd preswylydd arall o Bentref Llaneirwg ei berswadio, drwy alwad ddigroeso, i drefnu gwaith ar do ei dŷ gan fod angen ‘cael gwared ar fwsogl a bod y teils yn symud'. Yna dywedwyd wrtho fod angen gwneud rhagor o waith ar y dreif a'r patio.

Talodd gyfanswm o £26,200 am y gwaith, a oedd yn ‘ddiwerth' yn ôl syrfëwr arbenigol. Petai'r gwaith yn angenrheidiol ac wedi cael ei gwblhau i safon dderbyniol, dylai fod wedi talu £1,100.

Ers y troseddau, mae'r preswylydd o Laneirwg wedi bod mewn ‘cyflwr o bryder parhaus', yn gwneud ei orau glas i gynilo'r arian y mae wedi'i golli.

Esboniodd Tim Hartland, yn cynrychioli'r diffynnydd, wrth y llys fod Mr Bunce wedi pledio'n euog ar y cyfle cyntaf. Dim ond 26 oed ydoedd, ac nid oedd wedi cael ei anfon i'r carchar o'r blaen.

Dywedodd Mr Hartland: "Roedd y rhain yn droseddau ofnadwy yn erbyn hen bobl fregus, a hoffai Mr Bunce ymddiheuro i'r llys a'r dioddefwyr. Yn yr achos hwn, nid Mr Bunce oedd y prif sbardun y tu ôl i'r troseddau hyn."

Mewn cyfweliad, gwrthododd James Bunce roi unrhyw fanylion am y bobl eraill a oedd yn rhan o'r troseddau.

Wrth ddedfrydu, cadarnhaodd Ei Anrhydedd y Barnwr Crowther fod James Bunce yn rhan o grŵp a 'dargedodd ac a fanteisiodd yn systematig ar bobl fregus a'r henoed' a'i fod wedi hwyluso'r dwyll drwy adael i'r arian fynd drwy ei gyfrif banc.

Dedfrydwyd James Bunce i 12 mis o garchar ar unwaith, a nodwyd y byddai'n treulio 6 mis yn y carchar a 6 mis ar drwydded.

Plediodd James Bunce yn euog ar 6 Ebrill 2018 i un achos o wyngalchu arian dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002 a dau achos o gymryd rhan mewn arferion masnachol camarweiniol dan Reoliadau Amddiffyn Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.