Back
Gorchymyn Sangat Singh i dalu dros £22,000

GORCHMYNNWYD y landlord Sangat Singh, o Clifton Street, Adamsdown, i dalu dros £22,000 yn Llys yr Ynadon Caerdydd ddoe.

Roedd y ddirwy a osodwyd gan y llys ar gyfer 19 trosedd yn ymwneud â diffyg rheoli ‘tair fflat hunangynhwysol' mewn eiddo y mae'n berchen arno ac yn ei rentu yn y ddinas.

Roedd yn rhaid i'r eiddo rhent ar 54 System Street, Adamsdown gael caniatâd cynllunio adolygol yn 2013, gan na chafodd y gwaith i addasu'r eiddo'n dair fflat ganiatâd cynllunio.

Daeth yr achos a ddygwyd gerbron y llys ddoe i'r amlwg ar ôl i Swyddog Cymorth Cymunedol Yr Heddlu ddod yn bryderus ynghylch tenant agored i niwed oedd yn byw yn 54 System Street a chysylltu â'r cyngor am amodau byw'r tenant.

Cynhaliodd swyddog o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir arolwg ddiwedd Medi 2017 a chael mynediad i fflatiau'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.

Yna cynhaliwyd ail ymweliad ar ddechrau Hydref 2017 fel bod modd arolygu gweddill yr eiddo.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: "Daethai'n amlwg o'r dechrau i'r swyddogion a ymwelodd â'r eiddo hwn y doreth o fethiannau yn yr achos hwn.

"Rhaid i landlordiaid sy'n rheoli eu heiddo eu hunain sylweddoli bod y safonau a bennir yn rhai cyfreithiol am reswm, i ddiogelu lles a diogelwch tenantiaid sy'n byw yn eu heiddo."

Roedd yr 17 trosedd yn ymwneud â nifer o faterion gan gynnwys system larwm tân annigonol, diffyg amddiffyniad tân strwythurol priodol a modd i ddianc mewn tân; system wresogi annigonol; socedi trydanol annigonol, ffenestri llawr cyntaf heb eu cyfyngu, methiant o ran cynnal y gosodiadau trydanol, yn ogystal â materion eraill fel lloriau ansefydlog, darnau gwarchod annigonol ar y grisiau a methiant i gynnal wal ffin yr ardd.

Nid oes gan Mr Singh ychwaith drwydded i fod yn landlord, i reoli na gosod eiddo gan Rhentu Doeth Cymru.

Clywodd y llys fod gan Mr Singh dair collfarn flaenorol am droseddau tebyg yn mynd yn ôl i 1997 o ran yr eiddo yn ei berchenogaeth.

Hefyd, cafwyd Mr Singh yn euog o 2 drosedd yn ymwneud â'i fethiant i ymgeisio i Rhentu Doeth Cymru am drwydded i reoli neu i osod eiddo.

Dywedodd y Bargyfreithiwr Robert Goodwin yn y llys fod Mr Singh bellach wedi gwneud cais am drwydded â Rhentu Doeth Cymru a bod mwyafrif y gwaith i ddwyn yr eiddo ar System Street i safon briodol wedi'i wneud.

Parhaodd y Cyng. Thorne: "Mae gan y sector tai preifat ran allweddol i'w chwarae yn stoc dai Caerdydd. Mae mwyafrif y landlordiaid yn cadw wrth y rheolau a nodir, ond mae rhai o hyd sy'n meddwl eu bod uwchlaw'r gyfraith. Dylai'r ddirwy sylweddol a roddodd y llys anfon neges glir i'r sawl sy'n rhoi bywydau eu tenantiaid mewn perygl i newid eu ffyrdd. Gyda digon o dystiolaeth, bydd y cyngor bob amser yn dwyn y materion hyn gerbron y llys ac yn sicrhau bod y landlord yn gwneud y gwaith gofynnol ar yr eiddo i sicrhau bod yr eiddo'n bodloni'r safonau gofynnol."

Cafodd Sangat Singh ddirwy o £16,600 am yr 19 trosedd i gyd, gorchymyn i dalu £5,385 mewn costau cyfreithiol gyda thâl dioddefwr o £100. Rhoddwyd gwybod i wasanaeth Rhentu Doeth Cymru am yr euogfarn.