Yr Arglwydd Faer a Her y Tri Chopa
Mae Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Bob Derbyshire wedi cwblhau ei sesiwn hyfforddi olaf cyn ateb Her y Tri Chopa'r penwythnos hwn.
Nod y Cyng. Derbyshire yw gorchfygu llethau'r Wyddfa, Cader Idris a Phen-y-Fan i godi arian i'w elusennau dewis,Buglife Cymru ac RSPB Cymru. Hon fydd ei her codi arian olaf cyn i'w gyfnod fel Arglwydd Faer ddod i ben fis nesaf.
Yn ymuno ag ef bydd nifer o'i gyd-gynghorwyr yng Nghaerdydd gan gynnwys yr
Arweinydd, y Cyng. Huw Thomas yn ogystal â chynrychiolwyr o Buglife Cymru ac RSPB
Cymru.
Cwblhaodd y Cyng. Derbyshire, sy'n nofiwr brwd, her nofio ddwy filltir yn gynharach eleni
i helpu ei elusennau, ac mae wedi bod yn cerdded yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn
barod at y dasg heriol hon, gan gynnwys ymarfer wrth ddringo Pen-y-Fan a sesiwn
hyfforddiant derfynol yn y gampfa fodern ar ei newydd wedd yng Nghanolfan Hamdden
Trem-y-môr yn Grangetown.
Dywedodd y Cyng. Bob Derbyshire:"Mae Buglife Cymru ac RSPB Cymru'n ddwy elusen
wych sy'n gweithio'n agos â Chyngor Caerdydd i sicrhau bod yr amgylchedd yn lle gwell i
bawb.Felly roeddwn i am wneud fy rhan cyn i'm cyfnod fel Arglwydd Faer ddod i ben.
"Ro'n i'n meddwl bod hon yn her ddifyr iawn - dwi erioed wedi gwneud dim tebyg.Bydd hi'n
anodd iawn achos mae hi'n daith a hanner.
"Rhaid i ni fynd o'r gogledd i'r de, y cyfan mewn diwrnod, a dringo'r tri mynydd ar y ffordd.
Mae'r daith ei hun yn 17km ond wrth gwrs bydd hanner hynny'n cerdded i fyny.Dwi'n
Dechrau heneiddio felly bydd hi'n gryn her!"
I gefnogi'r Arglwydd Faer ar ei Her Tri Chopa Cymru ewch i:
www.justgiving.com/fundraising/welsh3peaksforwildlife