Back
Caerdydd ar restr fer i gynnal Confensiwn Dinasoedd Creadigol 2019
Mae Caerdydd yn un o dair dinas yn y DU sydd am gynnal Confensiwn Dinasoedd Creadigol 2019.

Mae'r confensiwn, sy'n gydweithrediad rhwng y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Pact yn lle i bobl sy'n byw yn y cyfryngau creadigol yn y DU ddod ynghyd.

Mae Caerdydd a'r ddwy ddinas arall ar y rhestr fer, Bryste a Glasgow, yn gwneud eu cyflwyniadau i gynnal digwyddiad y flwyddyn nesaf yn ystod confensiwn agoriadol 2018 sy'n cael ei gynnal yn Leeds.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Sector creadigol Caerdydd yw hyb y diwydiant yng Nghymru. Yn ogystal â bod yn gartref i rai o ddarlledwyr mwyaf y wlad mae hefyd sîn annibynnol gref sy'n manteisio ar ein gweithlu medrus, gyda chefnogaeth prifysgolion y ddinas.

"Mae'r sector creadigol yng Nghaerdydd yn cyflogi 15,00 o bobl ac yn cyfrannu dros £1 biliwn i'r economi.Mae'n llwyddiant ysgubol ac rydym wedi'i gwneud yn clir, drwy gyhoeddi ein bwriad i wneud cais i fod yn un o hybiau Cenhedloedd a Rhanbarthau Channel 4, ei fod yn llwyddiant yr ydym am adeiladu arno.

"Ond yr hyn sy'n gwneud Caerdydd yn unigryw yw ysbryd cydweithredol cymuned greadigol y ddinas. Rydym am i'r Confensiwn Dinasoedd Creadigol achub ar yr ysbryd hwnnw a chroesawu ein cydweithwyr cyfryngol o bob rhan o'r DU i'n dinas flaenllaw ac uchelgeisiol fel y gallwn rannu a gwrando ar eu cyflawniadau tra'n dathlu'r oes aur newydd hon i ddarlledu a chynhyrchu yng Nghymru."

Mae confensiwn eleni, y mae'r newyddiadurwraig a'r ddarlledwraig Kirsty Walk yn llywydd arno, yn cynnwys ystod o siaradwyr blaenllaw yn y diwydiant, gyda Phrif Weithredwr Channel 4 Alex Mahon yn eu harwain. Bydd yn siarad am gynlluniau'r sianel i wella ei chyfraniad at y cenhedloedd a'r rhanbarthau y tu allan i Lundain.

Caiff y ddinas lwyddiannus ei chyhoeddi ar Mai.