Back
Dathlu canrif o'r Llu Awyr Brenhinol yng Nghastell Caerdydd

Dathlwyd canmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol yng Nghastell Caerdydd gyda seremoni codi'r faner ar Ddydd Iau, 26ain Ebrill.

Roedd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire yn bresennol gydag Arglwyddes Raglaw De Morgannwg Ei Mawrhydi, Mrs Morfudd Meredith a Chomodor yr Awyrlu Adrian Williams.

Dywedodd yr Arglwydd Faer i'r gwesteion yn y seremoni:"Mae'r digwyddiad heddiw yn goffâd teilwng i'r sefydliad arbennig hwn ac i'r rheini sydd wedi gwasanaethu ac yn parhau i wasanaethu ac i gyfrannu at amddiffyn ein gwlad.

"Mae gan Gymru a'rLlu Awyr Brenhinolberthynas sydd wedi'i thrwytho mewn hanes cyffredin.Y Prif Weinidog David Lloyd George, a oedd yn Gymro, a lofnododd y ddogfen i sefydlu'r Llu Awyr Brenhinol ar 1 Ebrill 1918.Profwyd y bom bownsio, sy'n enwog oherwydd y ffilm 'The Dambusters', yng Nghwm Elan.Adeiladodd gweithwyr ffatri ym Mrychdyn y bomwyr Lancaster yn yr Ail Ryfel Byd a ffurfiwyd y syniad y tu ôl i'r Red Arrows yng Nghymru pan sefydlwyd yr RAF Yellowjacks yn RAF y Fali ym 1963.Hedfanodd yr Yellowjacks awyrennau melyn ‘Gnat' ac roedd yr arddangosfeydd mor llwyddiannus fe wnaethant arwain at greu'r Red Arrows ym 1964 a oedd yn hedfan yr awyrennau ‘Gnat' mewn coch.Fe gynlluniwyd bathodyn y Llu Awyr Brenhinol gan Gymro o Landudno, y Prif Is-swyddog Pepper, a greodd y logo 100 mlynedd yn ôl.

"Mae parch mawr yng Nghymru at y Llu Awyr Brenhinol a ledled y byd ac mae'n anrhydedd i fod yma i ddathlu ei ganmlwyddiant."

Cynhaliwyd y seremoni codi'r faner ar fore Dydd Iau wrth Golofn Gornel Castell Caerdydd.Gwelodd mynychwyr y seremoni Bendithio'r Faner a chwaraewyd corn wrth i'r faner gael ei chodi.