Back
Rhoi cymorth i deuluoedd sydd mewn gwaith gyda chynllun gofal plant

Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynlluniau ar sut y byddai'r Cyngor yn gweithredu cynllun arfaethedig Llywodraeth Cymru i roi 30 awr o addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar am ddim i rieni cymwys i blant 3 a 4 oed sy'n gweithio. 

Mewn cyfarfod heddiw, dydd Iau 19 Ebrill, cymeradwyodd y Cabinet i Gaerdydd fod yn Weithredwr Cynnar Llywodraeth Cymru (GCLlL) cynnig gofal plant 30 awr Llywodraeth Cymru. 

Mae'r cynnig yn cynnwys 12.5 awr Meithrinfa Cyfnod Sylfaen ac 17.5 awr o ofal plant mewn darparwr sy'n cymryd rhan bob wythnos yn ystod y tymor a 30 awr o ofal plant yr wythnos am nawr wythnos o wyliau'r ysgol. 

Nod y cynllun yw galluogi mwy o rieni, a mamau yn benodol, i fynd yn ôl i'r gwaith, rhoi mwy o incwm gwario i'r sawl sy'n gweithio a helpu i leihau tlodi i'r sawl sydd mewn swydd cyflog isel. Mae'r cynnig hefyd yn ceisio cynorthwyo o ran datblygiad a pharatoi plant ar gyfer yr ysgol. 

Mae'n ofynnol i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ddiffinio ardaloedd peilot i gyflwyno'r cynllun. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ar gyllid dros y misoedd nesaf. Gan ddibynnu ar y cyllid hwnnw, dewiswyd saith ward gyfagos yn arc ddeheuol y ddinas lle mae niferoedd uchel o weithwyr ar gyflog isel, ynghyd â Threlái a Chaerau, i fod yn ardaloedd peilgor posibl, yn yr adroddiad i'r Cabinet i gyflwyno'r cynnig ym mis Medi eleni. 

Mae'r adroddiad hefyd yn cynnig opsiynau o ran sut y dylid dewis ardaloedd eraill o'r ddinas ar gyfer y cam nesaf o'r cynllun o fis Ionawr 2019, ac eto bydd hynny'n dibynnu ar gyllid gan Lywodraeth Cymru. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r Cyngor am wneud yn siŵr bod pob plentyn yn y ddinas yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a thrwy'r cynnig hwn, mae gennym ni'n cyfle i roi cymorth i blant rhieni gweithio, ac i'w helpu i gael lle addysg cynnar rhan amser drwy ddarparu gofal plant. 

"Amcangyfrifir y byddai ymhell dros fil o blant o deuluoedd gweithio yn y ddinas yn cael budd o'r cynllun yn y lle cyntaf gan roi hwb mawr i incwm gwario'r teuluoedd hyn a chan ategu ein Huchelgais Prifddinas i drechu tlodi a buddsoddi mewn cyfleoedd bywyd o oedran cynnar i bobl plentyn, dim ots ble maen nhw'n byw yng Nghaerdydd." 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cyng. Graham Hinchey: "Mae'r Cyngor yn ymrwymo i gynorthwyo teuluoedd a thrwy ddod yn Weithredwr Cynnar Awdurdod Lleol, gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd cymwys yn yr ardaloedd peilot rydym ni wedi'u dewis. 

"I lawer o deuluoedd, mae cost gofal plant yn gallu bod yn rhwystr i'r sawl sydd am fynd yn ôl i'r gwaith. Byddai'r cynnig hwn yn dileu'r rhwystr honno a rhoi'r cyfle i fwy o rieni a mamau yn arbennig i fynd yn ôl i'r gwaith".