Back
Y Ffordd Gyswllt i gau dros nos ar gyfer gwaith arwynebu

 

Ddydd Mercher (Ebrill 18) a dydd Iau (Ebrill 19) rhwng 8pm a 5.30am, bydd y Ffordd Gyswllt (A4232) yn cau i gerbydau'n teithio i'r dwyrain, ar gyfer gwaith arwynebu rhwng cylchdro Croes Cwrlwys a ffordd ymadael Lecwydd. 

Caiff gyrwyr eu hailgyfeirio ar hyd Heol Orllewinol y Bont-faen, i Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, yna ar hyd Lansdown Road, gan droi i'r dde i Leckwith Road, cyn ailymuno â'r Ffordd Gyswllt yng nghylchdro Lecwydd.

Yna ar ddydd Iau (Ebrill 19) a dydd Gwener (Ebrill 20) rhwng 8pm a 5.30am bydd y Ffordd Gyswllt ar gau i gerbydau sy'n teithio i'r ddau gyfeiriad, ar gyfer gwaith arwynebu a chaiff teithwyr eu dargyfeirio ar hyd y ffyrdd canlynol:

Wrth deithio i'r dwyrain, (i mewn i'r ddinas) caiff gyrwyr eu dargyfeirio o'r Ffordd Gyswllt i Barc Manwerthu Bae Caerdydd, gan ailymuno â'r Ffordd o'r cylchdro.

Wrth deithio i'r gorllewin (allan o'r ddinas) caiff gyrwyr eu dargyfeirio ar hyd yr A4055 i Heol Penarth, yna i Hadfield Road cyn ymuno â Leckwith Road.