Back
Rhwydwaith Gwresogi Ardal yn cael ei gynnig i Gaerdydd
Bydd cynllun £26.5m a allai wresogi adeiladau cyhoeddus a masnachol ledled Caerdydd gan ddefnyddio ynni sy'n cael ei gynhyrchu drwy losgi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf Cabinet Cyngor Caerdydd.

Ni fyddai angen i’r adeiladau sy’n cysylltu â’r rhwydwaith ddefnyddio nwy i wresogi eu heiddo mwyach, gan ostwng biliau tanwydd ac allyriadau carbon y ddinas.

Bydd y Cabinet yn edrych ar y cynigion i ddatblygu rhwydwaith gwresogi ardal yn rhannau o Fae Caerdydd a Chanol y Ddinas gan ddefnyddio ynni gan Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident yn ei gyfarfod nesaf ar 19 Ebrill.Mae gan Gyfleuster Adfer Ynni Parc Trident gontractau ar hyn o bryd i losgi gwastraff na ellir ei ailgylchu gan naw awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Caerdydd.

Datblygwyd Achos Busnes Amlinellol i werthuso’r project, yn seiliedig ar astudiaeth fanwl a ariannwyd gan y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael:“Dyma gyfle cyffrous i Gaerdydd ddatblygu seilwaith ynni carbon-isel newydd, sy’n cael ei gyflenwi gan asedau a chyfleusterau presennol yn y ddinas.Mae dadansoddiad a gynhaliwyd yn dangos bod gan y cynllun gyfle i arbed 5,600 tunnell o garbon y flwyddyn, a rhagdybir y byddai adeiladau sy'n cysylltu â'r rhwydwaith yn arbed 5% oddi ar gostau ynni.

“Fodd bynnag, mae'r cynlluniau hyn yn dibynnu ar nifer o elfennau i'w gwneud yn ymarferol.Yn gyntaf, mae angen arian allanol ac rydym yn gweithio gyda'r Llywodraeth Ganolog yn ogystal â Llywodraeth Cymru i'n helpu i gael yr arian cywir.Yn ail, rhaid sicrhau contractau i ddefnyddio’r gwres o’r rhwydwaith a bydd hyn yn hanfodol i gynnydd y cynllun.

“Nododd Llywodraeth Cymru ei huchelgais o gael pob rhan o'r sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030. Caiff yr uchelgais hon ei chefnogi gan ddogfen polisi Uchelgais Prifddinas ddiweddar Cyngor Caerdydd – sy’n datgan y bydd y weinyddiaeth yn llunio cynnig am rwydwaith gwres cynaliadwy.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:“Mae gwres sy’n dadgarboneiddio’n her sylweddol i sicrhau economi carbon isel i Gymru.Rydym yn cefnogi ystod o fentrau ac wedi rhoi cymorth sylweddol i Gyngor Caerdydd ddatblygu’r project ar y cam hwn.Byddwn y parhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd gyda’r uchelgais o gyflawni’r project".

Dywedodd Chris Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Contractau Mawr Viridor, fod y cwmni’n falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i wneud y mwyaf o gyfleoedd am wres ac ynni adnewyddadwy a chyflawni uchelgeisiau amgylcheddol Llywodraeth Cymru.

“Mae Viridor yn ystyried y dylid rhoi pwrpas i bob darn o wastraff a’i werthfawrogi fel adnodd, yn hytrach na sbwriel.Dylid ei roi ar waith ar gyfer busnesau a chymunedau Cymru.Mae gweithredu’r cyd-syniad hwn ar gyfer dinasyddion a'r sector busnes yng Nghymru yn nod sy'n werth ei ddilyn."

Gofynnir i Gabinet y Cyngor neilltuo £4m tuag at y cynllun, yn amodol ar weddill yr arian yn dod o'r Llywodraeth Ganolog, Llywodraeth Cymru a’r sector preifat fel sy’n briodol.

Datblygwyd Achos Busnes Amlinellol i werthuso’r project a gofynnir i aelodau'r Cabinet am eu cefnogaeth, mewn egwyddor, o'r cynllun ac i fynd ymlaen i gamau nesaf y cynnig.Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno cais am grant a chyllid arall, sicrhau contractau â chyflenwyr a chwsmeriaid gwres a cychwyn ar y broses dendro am gwmni i gynllunio, adeiladu, gweithredu a chynnal y rhwydwaith gwres.

Mae’n bosibl y byddai’r rhwydwaith gwres yn cael ei berchen gan gwmni annibynnol drwy Gyfrwng at Ddibenion Arbennig, gyda’r Cyngor yn un o’r prif randdeiliaid.

Mae angen ffynhonnell gwres ar bob rhwydwaith gwres ac mae gan Gaerdydd Gyfleuster Adfer Ynni modern yng nghanol y brifddinas.

Mae Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident ar hyn o bryd yn llosgi gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gyfer dwy bartneriaeth cyngor:   Prosiect Gwyrdd yn cynnwys Cynghorau Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg a’r Bartneriaeth Tomorrow’s Valley yn cynnwys Cynghorau Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Thorfaen.Mae’r ffatri, sy’n cael ei gweithredu gan Viridor sydd hefyd yn berchen arni, yn cynhyrchu 30mw o drydan, digon o ynni i bweru 50,000 o gartrefi.

Pan godwyd y cyfleuster, fe’i gynlluniwyd i gynhyrchu gwres yn ogystal â phŵer.Gall ddefnyddio gwres yn ychwanegol at y broses generadu trydan gynyddu effeithlonrwydd y ffatri yn sylweddol.

Ffatrïoedd troi gwastraff yn ynni sy’n cynhyrchu gwres yn ogystal â phŵer yw hoff datrysiad Llywodraeth Cymru ar gyfer trin gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Byddai'n rhaid cytuno ar delerau masnachol â Viridor, a allai gyfrannu 85% o'r gwres sydd ei angen ar gyfer y rhwydwaith gwresogi.Mae ffynonellau eraill o wres hefyd ar gael yng Nghaerdydd gyda chyfleoedd o brosesau diwylliannol yn ogystal â ffynonellau dŵr.

Dengys astudiaethau diweddar y gallai’r cynllun gael ei gyflawni mewn dau gam.Byddai’r cam cyntaf yn canolbwyntio ar weithredu pibelli gwres mewn adeiladau cyhoeddus i’r de o’r rheilffordd.Yn y cam hwn, byddai angen codi ‘canolfan ynni’ gyda boeleri nwy ychwanegol/wrth gefn y bydd eu hangen pan fydd CAY Parc Trident yn cau i wneud gwaith cynnal a chadw arno.Bydd yr ail gam yn canolbwyntio ar adeiladau i’r gogledd a'r dwyrain o'r rheilffordd.

Câi’r rhwydwaith gwres a gynigir ei adeiladu o dan y ddaear, felly bydd tîm y project yn creu cynlluniau ar sut y caiff ei gyflawni fel nad yw’n amharu gormod ar briffyrdd.