Back
Datgelu cynlluniau ar gyfer rhan gyntaf Rhwydwaith Traffyrdd Beicio Caerdydd
Cafodd cynlluniau arfaethedig ar gyfer rhan gyntaf Rhwydwaith Traffyrdd Beicio Caerdydd eu datgelu heddiw.

Mae’r darn 1 cilomedr o seilwaith beicio ar wahân yn mynd o Gilgant St Andrew ar hyd St Andrew’s Place a Senghennydd Road.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild:  “Drwy gael mwy o bobl i feicio, bydd yn cyflwyno manteision megis llai o dagfeydd, gwell ansawdd aer a gwell iechyd y cyhoedd drwy’r ddinas gyfan, felly mae angen i ni ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl fentro ar gefn beic.

 Dengys ymchwil fod gwahanu llwyr chwarae’n rhan fawr wrth annog beicwyr llai hyderus, yn enwedig menywod a phobl gyda phlant ifanc, i ddewis beicio yn hytrach na dulliau trafnidiaeth eraill.  Mewn gwirionedd, mae ond angen i chi ystyried twf beicio yn Llundain i weld yr effaith y gall seilwaith beicio diogel o ansawdd da ei gael. 

 “Mae’r cynlluniau arfaethedig hyn ar gyfer rhan gyntaf ein Traffyrdd Beicio a gynlluniwyd yn nodi cychwyn y daith a allai, ynghyd â gwelliannau cynlluniedig eraill i seilwaith beicio'r ddinas, drawsnewid Caerdydd yn ddinas feicio o safon fyd-eang.”

I weld ac i roi sylwadau ar y cynlluniau, ewch i www.cardiff.gov.uk/cyclesuperhighways cyn 11 Mai 2018.

Cynhelir digwyddiadau ymgynghori yn:

·         Senghennydd Road, wrth ymyl y gyffordd gyda Salisbury Road (dydd Iau 19 Ebrill, 4.00 6.00pm)

·         Caffi Ride My Bike ar Blas-y-Parc (dydd Mercher 25 Ebrill 4.00 6.30pm)