Back
50 diwrnod i fynd tan fod ras fôr Volvo yn cyrraedd Caerdydd

50 diwrnod i fynd tan fod ras fôr Volvo yn cyrraedd Caerdydd

 

Ar 7 Ebrill,50 diwrnod fydd ar ôl cyn y disgwylir i Ras Fôr Volvo, digwyddiad hwylio anoddaf a mwyaf mawreddog y byd, gyrraedd Caerdydd ddydd Sul 27 Mai. Bydd y ras yn aros yma am bythefnos, gan ategu enw da Caerdydd fel dinas y glannau flaenllaw.

Disgwylir i'r cychod sy'n arwain y fflyd gyrraedd Bae Caerdydd ryw bryd ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, ar ôl gwneud y daith o 2,900 o filltiroedd morol ar draws yr Iwerydd o Newport, Rhode Island.Mae'r cam hwn o'r ras dros yr Iwerydd yn hwb i enw da Caerdydd fel dinas forol ledled y byd a dyma'r ymweliad cyntaf â'r DU ers 12 mlynedd i'r ras, a ddechreuodd ym 1973. Bydd yn rhoi hwb ariannol sylweddol i economi Cymru yn ystod ‘Blwyddyn y Môr' Croeso Cymru.

Amlygwyd perygl yr her sydd ynghlwm wrth y Ras yr wythnos ddiwethaf pan gollwyd John Fisher, aelod o griw, i'r môr yng Nghefnfor cythryblus y De yn ystod siwrne'r fflyd rhwng Seland Newydd a Brasil.Cafodd y drasiedi sylw byd-eang, a chydymdeimlad gan bawb, ond mae'r Ras yn mynd yn ei blaen, ac ymhen saith wythnos yn unig, bydd yn croesi'r Iwerydd o Newport, Rhode Island i gyrraedd Caerdydd, lle bydd ymwelwyr ledled y byd yn cael cyfle i fynd yn agos at y fflyd, ac i ddysgu mwy am Gaerdydd.

Ras Fôr Volvo yw'r diweddaraf mewn cyfres hir o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol i gael ei gynnal yng Nghaerdydd yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys gornest Focsio Teitl Pwysau Trwm y Byd yr wythnos ddiwethaf; Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2017; gemau allweddol o Gwpan Rygbi'r Byd 2015; a phêl-droed y Gemau Olympaidd yn 2012.

Bae Caerdydd oedd project ailddatblygu glannau dŵr mwyaf Ewrop pan y'i datblygwyd ar ddiwedd yr 20fed ganrif, gan droi'r hyn a arferai fod yn borthladd allforio glo mwyaf y byd yn ganolbwynt chwaraeon a hamddena, gan gynnal y Gyfres Hwylio Eithafol ryngwladol flynyddol a sawl digwyddiad Grand Prix Cychod Pŵer a chanŵio rhyngwladol.

 

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:"Gyda 50 diwrnod i fynd, rydym yn gyffrous iawn am ddyfodiad Ras Fôr Volvo.Rydym wrth ein boddau'n chwarae ein rhan yn y digwyddiad hwn - yn enwedig wrth i ni ddathlu ein glannau godidog ym Mlwyddyn y Môr.Bydd Cam Caerdydd yn hwb gwych i economi Cymru, ac mae'n gyfle arall i ehangu proffil rhyngwladol cadarnhaol Cymru."

 

Dechreuodd Ras Fôr Volvo, sy'n 45,000 milltir forol, o Alicante fis Hydref diwethaf, gan deithio'r moroedd ac aros yn rhai o gyrchfannau morol enwocaf y byd fel Hong Kong, Cape Town ac Auckland.Pan fydd y ras yn gadael Caerdydd ar 10 Mehefin, bydd yn symud i Gothenburg a'r Hâg ac yn dod i ben ar ddiwedd mis Mehefin.

Mae un o'r cychod, Turn The Tide On Plastic, yn helpu i ledaenu'r neges am y difrod a achosir gan blastig yn y moroedd, ac mae'n casglu data ar ficroplastig wrth iddo deithio'r byd.Ymhlith y criw mae'r Cymro Bleddyn Môn sy'n edrych ymlaen at ddod yma ym mis Mai.Dywedodd Bleddyn:"Mae Ras Fôr Volvo yn brawf enfawr o allu a gwydnwch, ac mae wedi bod yn un o brofiadau gorau fy mywyd.Fel Cymro, mae'n wych ein bod yn dod i Gaerdydd, a dwi'n edrych ymlaen at weld fy nheulu a'm ffrindiau wrth gyrraedd Bae Caerdydd ym mis Mai."

Bydd gŵyl am ddim sy'n para pythefnos ym Mhentref Ras Fôr Volvo a leolir wrth ymyl Morglawdd Bae Caerdydd, lle y bydd ymwelwyr yn gallu gweld y cychod, a dod o hyd i amrywiaeth o atyniadau ac adloniant yn thema'r Ras ar y glannau, gan gynnwys cerddoriaeth fyw a pherfformiadau oLEXICON, sef cynnig cyfoes ar dreftadaeth y syrcas, wedi'i greu gan NoFit State a Firenza Guidi o Gaerdydd. Bydd blas Cymreig i'r ŵyl hefyd gyda chynhyrchwyr o Gymru'n cynnig bwyd a diod wedi eu cynhyrchu'n lleol - o fariau yn cynnig cwrw da i'r stondinau bwyd stryd mwyaf poblogaidd.

 

 Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae pawb llawn cyffro wrth i ni nodi 50 diwrnod tan fod Ras Fôr Volvo yn cyrraedd yng Nghaerdydd. Mae'n mynd i fod yn bythefnos gwych yn y ddinas ac yn gyfle arall i ni arddangos ein cyfleusterau fel cyrchfan digwyddiadau chwaraeon mawr.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r criwiau a'r holl ymwelwyr â'n dinas ar gyfer digwyddiad sy'n addo cynnig golygfa gwerth chweil ar y môr."

Volvooceanracecardiff.com; Visitcardiff.com; croesocymru.com