Back
Diweddariad ar Ernie y sbaniel

Hoffai Cyngor Caerdydd ddiolch i'r teulu Abraham am ddod ag Ernie y sbaniel i Gartref Cŵn Caerdydd heddiw (Dydd Gwener 6 Ebrill) er mwyn i ni gynnal y profion cyfreithiol angenrheidiol arno.

Cadarnhaodd ein wardeiniaid fanylion sglodyn ac iechyd Ernie, a chwblhaodd y teulu Abraham y gwaith papur gofynnol i ni.Yna cafodd Ernie fynd yn ôl i Gasnewydd ac, yn amodol ar wiriad o'r cartref, caiff aros mewn cartref newydd cariadus a gofalgar.

Mae ein warden wedi cynghori'r teulu Abraham i barhau i geisio cyngor milfeddygol o ran triniaeth barhaus er mwyn bodloni anghenion lles Ernie.

Roedd yr ymweliad â'r cartref cŵn heddiw yn bwysig.Roedd angen i ni weld Ernie ac roedd angen i ni sganio ei sglodyn i gadarnhau ei hanes iechyd a pherchnogaeth.

Gwnaeth yr ymweliad hefyd sicrhau bod y teulu Abraham yn bodloni eu cyfrifoldebau cyfreithiol dan Adran 150(1b) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 sy'n nodi'n glir y dylai ‘unrhyw berson sy'n dod o hyd i gi straefynd â'r ci i swyddog yr awdurdod lleolar gyfer yr ardallle daethpwyd o hyd i'r cia rhoi gwybod i swyddog yr awdurdod lleol.' 

Er bod llawer o bobl sy'n dod o hyd i gi eisiau cadw'r ci hwnnw, mae'n rhaid i'r Cyngor wneud ymdrechion rhesymol i ddod o hyd i berchennog er mwyn rhoi cyfle rhesymol iddo ddod i gasglu ei gi.Mae'n rhaid i ni wneud hyn dan y gyfraith cyn caniatáu i rywun gadw ci, yn unol ag Adran 4 Rheoliadau Diogelwch Amgylcheddol (Cŵn Strae) 1992.

Dyma pam roedd angen i ni weld Ernie.

Hoffem achub ar y cyfle hwn i atgoffa unrhyw un sy'n dod o hyd i gi strae o'r canlynol:

Os byddwch yn dod o hyd i gi sydd yn amlwg ar goll, edrychwch i weld a yw'r ci yn gwisgo coler a disg adnabod. Efallai y byddwch am gadw'r ci tra eich bod yn ceisio dod o hyd i'r perchennog neu gysylltu ag ef.

Os byddwch yn dod o hyd i gi strae mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch i gysylltu â'r Cyngor lle daethoch o hyd i'r ci.  Bydd y Cyngor am gael manylion y ci, gan gynnwys lle a phryd y daethoch o hyd iddo.Bydd angen i'r gi gael prawf micro-sglodyn naill ai gan filfeddyg, yn safle'r Cyngor neu gan Warden a all alw draw i'ch eiddo.


Fe ymchwiliwn i weld a yw'r perchennog wedi cofnodi ei fod ar goll. Os yw wedi gwneud hyn, fe geisiwn aduno'r ci â'r perchennog heb orfod dod â'r ci i'r cartref.

 

Os nad oes cofnod bod y ci ar goll, daw'r Warden Cŵn i'w gasglu gennych yn ystod oriau gwaith.

 

Os byddwch yn dod o hyd i gi strae yng Nghaerdydd, gallwch ddod ag ef yn syth atom yn y cartref cŵn ar unrhyw adeg. Mae rhywun yma 24 awr y dydd i dderbyn cŵn strae.Os yn bosibl, cysylltwch â ni cyn dod â chi atom y tu allan i'r oriau gwaith arferol.Y rhif cyswllt, os byddwch yn dod o hyd i gi strae yng Nghaerdydd, yw 029 2071 1243. Mae hwn yn wasanaeth 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.