Back
Chwilen ddu mewn popadom

 

Derbyniodd unig berchennog yr Eurasioan Tandori yn Nhreganna, Khalilur Rahman, ddedfryd carchar wedi ei gohirio ddoe yn Llys yr Ynadon Caerdydd wedi iddo gyfaddef i chwe chyhuddiad yn ymwneud â rheoliadau hylendid bwyd.

Aeth swyddogion cyngor o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir i'r bwyty ar 20 Mawrth 2017 yn dilyn cwyn gan gwsmer fod rhan o chwilen ddu yn eu popadom pan fwyton nhw yn y bwyty ar 11 Mawrth y llynedd.

Darganfu'r archwiliad dilynol chwilod du ar y waliau a'r llawr yn ogystal â draen agored yn y gegin."

Eglurodd yr Awdurdod Erlyn, Cyngor Caerdydd - i'r llys fod cyfundrefn rheoli diogelwch bwyd yn ei le - ond nad oedd y gweithdrefnau yn cael eu gweithredu.

Eglurodd Clive Pursey, yn cynrychioli Cyngor Caerdydd i'r llys fod pla gweithredol wedi ei ganfod yn y safle a oedd yn creu "perygl sylweddol o heintio bwyd."

Dangosodd gwaith papur a ganfuwyd yn y bwyty mai'r tro diwethaf i'r eiddo gael ei archwilio gan gwmni rheoli plâu oedd ar 21 Rhagfyr 2016 a bod tystiolaeth o lygod mawr a chwilod duon bryd hynny.

Adeg yr archwiliad roedd Mr Rahman yn Bangladesh ac fe gytunodd ei frawd, a oedd yn bresennol yn y bwyty, yn wirfoddol i gau'r busnes.

Eglurodd Mr Pursey i'r llys, "Y gwnaed y busnes yn ymwybodol ers Rhagfyr 2016 fod problem rheoli pla ac roeddent wedi methu a'i gywiro. Parhaodd y busnes i gyflenwi i'r cwsmer a oedd yn cynnwys grwpiau agored i niwed ac roedd yn risg i'r cwsmer."

Graddiwyd y pla fel "niwed categori 1".

Cafwyd ymweliad arall gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar 27 Mawrth ac roedd yr holl arwynebeddau wedi eu glanhau a gwaith ar strwythur yr adeilad wedi ei wneud.

Disgrifiwyd y busnes fel un ‘rhydd rhag pla a chaniatawyd iddynt barhau i fasnachu."

Clywodd y llys hefyd fod yr archwiliadau a oedd wedi eu cynnal ym mis Chwefror 2016 a mis Medi 2017 wedi dangos nad oedd "unrhyw dystiolaeth o blâu" yn y bwyty ar yr adegau hynny.

Gwnaed archwiliad pellach ar 15 Chwefror 2018 a chadarnhawyd fod y gegin yn lân a rhydd rhag plâu, gyda staff wedi eu hyfforddi yn llawn a'r bwyty yn derbyn gradd 4 allan o 5 am hylendid bwyd.

Wrth amddiffyn Mr Rahman, eglurodd Jonathan Webb i'r llys fod ei gleient o gymeriad  glân, yr oedd edifar ganddo am yr hyn a wnaeth, ei fod wedi pledio'n euog ar y cyfle cyntaf ac wedi cydymffurfio yn llawn gyda'r ymchwiliad ac yna'r Gwasanaeth Prawf.

Dywedodd Mr Webb, "Roedd gan y busnes radd dda am hylendid bwyd yn y gorffennol, roedd y ddogfennaeth bellach yn gyfredol, staff wedi eu hyfforddi, bod sgôr o 4 allan o 5 ar gyfer hylendid bwyd ac ar 26 o fis Chwefror eleni fod y bwyty wedi derbyn gwobr yn Llawlyfr yr AAA."

Disgrifiwyd Mr Rahman fel yr unig un yn y teulu a enillai gyflog, fod ganddo dri o blant ac yn ofalwr ar gyfer ei frawd a'i fod wedi dysgu ei wers.

Dywedodd Mr Webb: "Dyw'r busnes ddim yn gwneud swm mawr o arian, ond digon i'w alluogi i gynnal ei deulu. Byddai dedfryd o garchar yn ei lorio yntau a'i deulu. Roedd yn gamgymeriad dybryd ac roedd wir yn edifar ganddo."

Wrth grynhoi'r achos, dywedodd y Barnwr Rhanbarth Bodfan Jenkins: "Ar yr achlysur hwn ni dderbyniodd aelod o'r cyhoedd unrhyw niwed ond roedd y peryg o effaith niweidiol ar y cyhoedd yn uchel.

"Mae'r achos hwn mor ddifrifol fel ei fod yn  croesi'r trothwy ar gyfer dedfryd o garchar ond o ystyried eich cymeriad da mae'n dra thebygol na fyddwch yn troseddu eto. Fe wnaethoch lanhau eich busnes ac ers dros flwyddyn bellach ni welwyd ailadrodd ar y troseddu."

Derbyniodd Khalilur Rahman ddedfryd o bedwar mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd am bob trosedd i redeg ar y cyd; gorchymynnwyd iddo gwblhau 200 o oriau o waith di-dâl yn y gymuned; gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £200; £1250 mewn costau a gordollau o £115.

Derbyniodd y llys y bydd Mr Rahman yn talu £40 yr wythnos hyd oni bydd yr holl gostau wedi eu talu.

Dywedodd y Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: " Yn dilyn gwaith gwych ein swyddogion i ddod â'r achos yma i'r llys, mae'r ddedfryd a roddwyd yn adlewyrchu natur ddifrifol yr achos hwn. Gofynnwn i bob busnes sy'n gwerthu bwyd i lynu at y gyfraith a'r safonau sydd yn eu lle i sicrhau fod iechyd diogelwch preswylwyr yn cael ei gynnal."