Back
Pryd ar Glud 7 niwrnod yr wythnos!

Pryd ar Glud 7 niwrnod yr wythnos!

 

Bydd gwasanaeth Pryd ar Glud Cyngor Caerdydd yn lansio gwasanaeth danfon saith niwrnod yr wythnos yn hwyrach y mis hwn.

 

O 28 Ebrill, byddwn yn dod at garreg filltir bwysig pan fo cwsmeriaid trwy Gaerdydd yn cael mwynhau prydau cynnes, maethlon at eu drysau dros y penwythnos yn ogystal â'r wythnos, bob diwrnod o'r flwyddyn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae ein gwasanaeth Pryd ar Glud wedi mynd o nerth i nerth ac wedi gwneud cynnydd enfawr ers ei ail-lansio llai na 12 mis yn ôl.Am y tro cyntaf, bu i ni ddanfon dros wyliau banc y Nadolig a'r Pasg ac rwy' ar ben fy nigon yn cyhoeddi y byddwn ni nawr yn estyn y gwasanaeth i ddydd Sadwrn a dydd Sul.

 

"Gwrandawon ni ar ein cwsmeriaid pan ddywedon nhw wrthym yr hoffen nhw gael ein prydau ar benwythnosau hefyd.

 

"Mae'r gwasanaeth yn rhoi llawer mwy na bwyd i'r cwsmeriaid.Mae'r prydau'n flasus, wrth gwrs, ond ein staff yw'r unig bobl a wel rhai cwsmeriaid trwy'r dydd, felly mae gan y gwasanaeth rôl ehangach wrth sicrhau bod pobl yn teimlo'n llai unig neu ynysig.

 

"Yn wir, mae ein gwasanaeth yn achubiaeth i rai.Ni welwyd hyn yn fwy nag yn ystod y stormydd eira diweddar pan fu'n timau'n brwydro amodau caled iawn i sicrhau y câi pobl hŷn ac agored i niwed bryd cynnes.

 

Mae'r Cyngor wedi bod yn danfon Prydau ar Glud i bobl sy'n agored i niwed trwy'r ddinas ers 1978 a nawr bydd y gwasanaeth ar gael i fwy o bobl nag erioed o'r blaen.

 

Gall cwsmeriaid hunangyfeirio at y gwasanaeth neu gall eu teulu, ffrindiau, cymdogion neu weithwyrproffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol eu cyfeirio.

 

Gall cwsmeriaid sy'n bodloni un o'r meini prawf canlynol nawr fanteisio ar y gwasanaeth:

 

  • Pobl sy'n ei chael yn anodd paratoi pryd o fwyd yn ddiogel
  • Pobl sy'n hunan-esgeuluso neu a fyddai'n bwyta diet amhriodol heb y gwasanaeth
  • Pobl sy'n methu â siopa am fwyd
  • Pobl ag anabledd meddwl neu gorfforol
  • Pobl y mae arnyn nhw angen cymorth ar ôl eu rhyddhau o'r ysbyty neu wedi salwch; pan fo gofalwr yn sâl neu ar wyliau, neu wedi profedigaeth. 

Mae'r gwasanaeth fforddiadwy ar gyfer pobl o bob oedran, nid pobl hŷn yn unig, a gall cwsmeriaid ddewis pryd a pha mor aml yr hoffent gael prydau bwyd.Mae ystod eang o brydau ar gael, sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o ddietau, cyflyrau a dewisiadau, am brisiau'n cychwyn am £3.90 ac a gludir am ddim gan ein tîm cyfeillgar.

 

Mae'r gwasanaeth yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid a'u teuluoedd ac mae'n cyd-fynd â gwasanaeth ymateb a gwardeiniaid Cyngor y Ddinas, Teleofal Caerdydd, sy'n helpu pobl i fyw'n annibynnol gartref yn hirach.

 

 

I ddysgu mwy am y gwasanaeth Pryd ar Glud, ewch i www.caerdydd.gov.uk/prydarglud