Back
Datganiad Cyngor Caerdydd ar Ernie y Sbaniel
Dywedodd llefarydd ar gyfer Cyngor Caerdydd:  “I gydymffurfio â Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mae gan Gyngor Caerdydd weithdrefn i ddelio â sefyllfaoedd pan fo ci strae yn cael ei ganfod yng Nghaerdydd, a dylid mynd â phob ci i Gartref Cŵn Caerdydd neu roi gwybod amdano i’r Wardeiniaid Anifeiliaid i’w gasglu, am nifer o resymau.

“Yn gyntaf, mae angen i ni weld a oes gan y ci ficrosglodyn i weld a allwn ddod o hyd i’r perchennog a rhoi cyfle iddo ddod i nôl ei anifail.  Yn ail, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y ci’n iach a chasglu unrhyw dystiolaeth am unrhyw gamau y gallai’r Cyngor eu cymryd.

“Os nad yw perchennog yn cyflwyno’i hun, neu os nad oes modd dod o hyd iddo, gwneir pob ymdrech i ail-gartrefu’r ci a byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gan y person sy’n mabwysiadu’r ci eiddo addas, a bod ei amgylchiadau’n addas, i ofalu am y ci’n gywir.

“Yn yr achos hwn, canfu rhywun o Gasnewydd gi strae yng Nghaerdydd gan ddewis mynd â’r ci adref i’w eiddo yng Nghasnewydd. Ond, dim ond i Gartref Cŵn Caerdydd y rhoddodd wybod am y ci, a hynny tua 72 awr ar ôl ei ganfod, ac yn y cyfnod hwn trefnodd dudalen Just Giving i godi arian i ofalu am y ci.

“Rydym yn argymell yn gryf i’r unigolyn ddod â’r ci i Gartref Cŵn Caerdydd, fel y gallwn geisio dod o hyd i’r perchennog.Ar hyn o bryd, amherir ar yr ymchwiliadau hyn gan nad yw’r ci yn ein meddiant. Os nad oes modd dod o hyd i’r perchennog, a bod angen ail-gartrefu’r ci, caiff y person sydd wedi dod o hyd iddo gyfle i’w fabwysiadu, os credir ei fod yn addas i wneud hynny, a’i fod wedi dweud wrth y Cyngor ei fod am wneud hynny.”

“Ar hynny, mae’n bosibl y gall yr hyn a wnaed gan yr unigolyn wrth gymryd y ci fod wedi cyfaddawdu ar unrhyw ymchwiliadau lles posibl y gallai Swyddogion y Cyngor neu’r RSPA fod wedi’u gwneud.

“Mae swyddogion yn gweithio gyda’r person a ganfu’r ci i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â’u dyletswydd gyfreithiol, gan na all unrhyw un sy’n dod o hyd i gi strae ond ei gadw ar ôl cael cadarnhad gan swyddog awdurdodedig o’r Cyngor.Ni roddwyd awdurdodiad o’r fath yn yr achos hwn.  

“Gan ein bod yn delio’n uniongyrchol â’r person a ddaeth o hyd i’r ci hwn, ni fydd Cartref Cŵn Caerdydd yn ymateb i unrhyw ymholiadau pellach am y ci hwn.”