Back
Plant Ysgol Gynradd Gabalfa yn dringo'r ystol at lwyddiant a mwy o syniadau

Croesawyd plant, staff a rhieni Ysgol Gynradd Gabalfa i Siambr y Cyngor i lansio'n swyddogol y fenter disgyblion newydd - the Gabalfa Ladder. 

Cafodd y Pennaeth Mrs Carrie Jenkins a chynrychiolwyr cymuned yr ysgol eu croesawu'n ffurfiol gan y Dirprwy Arweinydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogadwyedd a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry, yr aelod ward dros Ystum Taf, y Cyng. Dilwar Ali a'r Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd, Julie Morgan AC. 

Datblygwyd y Gabalfa Ladder gan yr ysgol i roi llais i'r plant mewn naw maes - neu gam - allweddol, gyda phob un yn cael ei redeg gan y disgyblion eu hunain (gyda help gan eu hathrawon a'u cynorthwywyr addysgu).

 Dywedodd Mrs Carrie Jenkins:"Mae ein llais disgyblion newydd cyffrous ‘Ladder' yn ffordd wych i'r holl ddisgyblion gynnig eu barn a'u syniadau, ac mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae wrth wella'r ysgol yn barhaus. 

"Rwyf yn falch iawn o'r ffordd y mae disgyblion wedi dangos ymroddiad a brwdfrydedd wrth nôl yr ystôl a'i chael i bwyntio at yr awyr.Hyd yn oed yn y camau cynnar hyn, rydym eisoes yn cael budd enfawr o'u cyfraniadau.Os gall pawb wneud hyn mewn rhai misoedd, alla i ddim disgwyl gweld beth y bydd eu hegni a'u brwdfrydedd yn ei gyflawni yn y dyfodol." 

Mae gan bob cam o'r Gabalfa Ladder ei logo ei hun, wedi'i ddylunio gan y plant.Y naw cam yw: 

Pry Presenoldeb (arwyddair:Bee good and on time)

Arwyr Techno (arwyddair:Whenever there's a problem...we'll be there)

Hyrwyddwyr Heini (arwyddair:Stay pumped and stay strong)

Bwyta'n Iach (arwyddair:Better eating, better learning)

Hyrwyddwyr Eco (arwyddair:Healthy environment, healthy me)

Herwyr y Cwricwlwm (arwyddair:Work hard, have fun and succeed)

Criw Cymraeg (arwyddair:Byw a dysgu yng Nghymru)

CLACH (arwyddair:Making the community count)

Cyfeillion Busnes (arwyddair:Love life and raise)

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry:"Mwynheais yn fawr gwrdd â'r plant o bob cam o'r Gabalfa Ladder, a chlywed am y gwaith caled a wnaethent wrth ddechrau arni, eu llwyddiannau, a'r cynlluniau gwych sydd ganddynt ar gyfer y dyfodol.Arwyddair yr ysgol yw ‘Listening and doing.Delivering everyone's rights' ac mae'r ystôl yn enghraifft wych o roi'r ethos hwnnw ar waith. 

"Mae sicrhau bod gan ein plant a'n pobl ifanc lais wrth lunio'r dyfodol yng Nghaerdydd yn bwysig tu hwnt.Mae'n wych gweld y ffordd y mae Mrs Jenkins a'i staff wedi rhoi modd i ddisgyblion gyfranogi mor gynnar.Rwy'n siŵr y bydd y plant ifanc yn mynd ati i fod yn aelodau actif o'r gymuned pan fyddant yn hŷn, yn llawn syniadau i helpu'r ddinas am flynyddoedd i ddod."