Back
Cytuno ar Fargen Eiddo ar gyfer Gorsaf Fysus Newydd

Mae bargen newydd ar gyfer gorsaf fysus Caerdydd wedi'i chytuno rhwng y Cyngor, Rightacres Property Ltd a Llywodraeth Cymru. Bydd y fargen yn sicrhau swyddfeydd yn rhan o'r cynllun aml-ddefnydd ac yn galluogi'r datblygiad i symud ymlaen heb orfod disgwyl am denant swyddfa.

Mae adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd heddiw wedi cymeradwyo trosglwyddo'r budd lesddeiliaid yn y tir ym mherchnogaeth y Cyngor yn y Sgwâr Canolog a'i ddyrannu i Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygiad yr orsaf fysus. Mae hyn bellach yn galluogi'r gwaith o drefnu'r safle cyfan cyn bod y datblygiad yn barod i'w werthu i gwmni buddsoddi sefydliadol ar yr un telerau. 

Bydd y fargen newydd yn golygu y bydd Trafnidiaeth Cymru, sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, yn cymryd les i weithredu'r orsaf fysus yn rhan o'r datblygiad newydd.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn ystyried yr orsaf fysus newydd yn rhan ganolog o'r hyb trafnidiaeth integredig newydd fydd yn cael ei gyflawni drwy'r project Metro Canolog.Gwnaeth y project hwn sicrhau ymrwymiad mewn egwyddor o £40m yn ddiweddar gan y Fargen Ddinesig.Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru eisiau sicrhau bod yr orsaf fysus a'r orsaf drenau'n gweithredu fel un endid trafnidiaeth, gan alluogi teithwyr i symud yn rhwydd rhwng y ddau ddull trafnidiaeth.Bydd rhoi caniatâd i Trafnidiaeth Cymru weithredu'r orsaf fysus newydd yn helpu i gyflawni'r nod hwnnw.

Gan fod Cabinet Cyngor Caerdydd bellach wedi cytuno i werthu'r budd lesddeiliaid yn y tir i Lywodraeth Cymru, bydd cytundeb Partneriaeth Cyflawni'r Metro newydd yn cael ei lofnodi rhwng y Cyngor, y Llywodraeth a'r datblygwr, Rightacres, a fydd yn goruchwylio project y Metro Canolog ac yn caniatáu i'r gwaith ddechrau.

Mae'r cynllun gorsaf fysus wedi'i adolygu, ond bydd yn dal i ddarparu'r un orsaf fysus 14-arhosfan gyda 10,000 troedfedd sgwâr o ofod manwerthu ar y llawr daear.Bydd y maes parcio'n cael ei adeiladu dros ddwy lefel - gan leihau'r gost adeiladu'n sylweddol - ac mae cynlluniau am 300 o fflatiau yn wynebu Stryd Wood a 85,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa Gradd A yn wynebu Heol Saunders ar lawr uchaf yr adeilad newydd.

Er y bydd angen cais cynllunio newydd ar gyfer y newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r adeilad, mae gan y datblygiad ganiatâd cynllunio fel y gall gwaith ddechrau ar sylfeini'r datblygiad unwaith bydd contractwr wedi'i benodi.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:"Drwy'r trefniadau sydd wedi'u gweithredu ers mis Mai, bydd yr orsaf fysus newydd yn cael ei hadeiladu ar sail fasnachol.Bydd gan Gaerdydd orsaf fysus newydd a bydd y Cyngor yn adennill y rhan fwyaf o'r arian sydd wedi'i wario ar y cynllun hyd yn hyn.Mae dod â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ynghyd fel partneriaid wedi galluogi'r Cyngor a'r datblygwr i gyrraedd y cam hwn, lle bydd y gwaith adeiladu'n cael ei gyflawni'n gyfan gwbl ar sail fasnachol heb unrhyw angen am fwy o fuddsoddiad gan y Cyngor.

"Yn bwysig iawn, mae ymyriad Llywodraeth Cymru wedi sicrhau swyddfeydd yn rhan o'r cynllun aml-ddefnydd terfynol, sy'n golygu bod gennym gyfle da i sicrhau'r project mewnfuddsoddi mawr yr ydym wedi bod yn gweithio arno dros y 12 mis diwethaf."

"Roeddem angen i'r project hwn fod yn fforddiadwy i'r Cyngor, sy'n egluro'r oedi wrth ei weithredu. Roedd angen i ni wneud newidiadau, ond rydym yn hyderus bod gennym gynllun a phartneriaeth a fydd yn ei wireddu, ac rydym yn gobeithio y bydd gwaith yn dechrau ar y safle fis nesaf."

Dyma'r argymhellion i'r Cabinet sydd wedi'u cymeradwyo:

Cytuno, mewn egwyddor i'r cytundeb Partneriaeth Cyflawni'r Metro rhwng y Cyngor, Llywodraeth Cymru a Rightacres.

Gwerthu buddion lesddeiliaid y Cyngor yn y tir yn yr Orsaf Ganolog i Lywodraeth Cymru.

Bydd y model newydd i ariannu'r orsaf fysus yn galluogi'r Cyngor i adennill y rhan fwyaf o'r costau y mae wedi'u gwario wrth fwrw ymlaen â'r project hyd yma.